Cyflwynwch eich ffurflen gais erbyn 5 Tachwedd 2021.
Fe gewch chi wybodaeth am eich cais am le yn yr ysgol erbyn 1 Mawrth 2022.
Fe allwch chi hefyd lawrlwytho fersiwn o'r ffurflenni y gellir eu hargraffu drwy glicio yma.
Ceisiadau hwyr
Byddwn yn dyrannu lleoedd yn gyntaf i geisiadau a dderbyniwn erbyn y dyddiad cau. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu prosesu nes ein bod wedi prosesu pob cais ar amser, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r oedi.
Gwybodaeth Bwysig:
Os ydych chi'n gwneud cais am le yn:
- Ysgol Bryn Elian,
- Ysgol Eirias, neu
- Ysgol Emrys ap Iwan,
yn ogystal â llenwi’r Ffurflen Derbyniadau i Ysgolion, bydd angen i chi hefyd gysylltu â’ch dewis o ysgol i gael ffurflen gais ar wahân. Efallai y bydd y ffurflen hon hefyd ar gael gan ysgol bresennol eich plentyn.
Dyddiadau Pwysig
6 Medi 2021
- Bydd ffurflenni cais ysgolion yn cael eu cyhoeddi a cheisiadau ar-lein yn agor
- Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael uchod a gellir postio copïau caled ar gais, drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031
- Mae llyfrynnau ar sut i wneud cais ar gael uchod
5 Tachwedd 2021
- Dyddiad cau ar gyfer pob cais i Ysgol Uwchradd
1 Mawrth 2022
- Bydd llythyrau yn cynnig neu'n gwrthod lle yn cael eu hanfon allan
Tymor y Gwanwyn 2022
- Trefniadau i drafod ceisiadau a wrthodwyd gydag Uwch Swyddogion Addysg
- Gwneud cais i ysgol arall
- Yr ysgolion yn trefnu diwrnodau cynefino a chyfarfodydd rhieni i baratoi ar gyfer cychwyn ym mis Medi.