Mae'r Cyngor yn cadw cofrestr o gŵn sydd ar goll neu y daethpwyd o hyd iddynt.
Cŵn Crwydr
Mae ci sy’n crwydro yn un sydd heb ei berchennog mewn man cyhoeddus (neu fan preifat lle nad oes caniatâd iddo).
Os byddwch yn dod o hyd i gi crwydr, dylech:
- Weld a yw’r ci yn gwisgo tag ac os felly cysylltwch â’r perchennog.
- Cysylltu â’r Cyngor
Os byddwch yn dod o hyd i gi crwydr yn ystod oriau swyddfa, cysylltwch â ni’n uniongyrchol ar: 01492 575222.
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddychwelyd y ci i’w berchennog. Os ydym ni’n aflwyddiannus, byddwn yn cymryd y ci i’n cytiau cŵn penodedig yn Nant y Corn, Llan San Siôr, Abergele am 7 niwrnod o leiaf.
Os nad yw'r ci yn cael ei gasglu o fewn y cyfnod hwn yna bydd y ci yn cael ei ail-gartrefu. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ac mewn achosion prin, efallai bydd y ci yn cael ei roi i gysgu.
Os byddwch yn dod o hyd i gi crwydr y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch: 0300 123 3079.
Cewch gynnig un o’r dewisiadau canlynol:
- Drwy drefniant ymlaen llaw drwy'r gwasanaeth y tu allan i oriau, gallwch fynd â’r ci i'n cytiau cŵn penodol yn Nant y Corn, Llan San Siôr, Abergele.
- Fel arall, efallai y gofynnir i chi ddal gafael ar y ci tan y diwrnod gwaith nesaf, pan fydd un o swyddogion y Cyngor yn ei gasglu.
PEIDIWCH â chysylltu neu fynd â chi crwydr i'r cytiau cŵn heb gysylltu yn gyntaf â'r gwasanaeth y tu allan i oriau gan y byddwch yn cael eich gwrthod.
Cŵn ar goll
Os ydych wedi colli eich ci, dylech gysylltu â ni i weld os yw wedi cael ei adrodd neu ei godi.
Yn ystod oriau swyddfa
- Dydd Llun i Ddydd Iau: 9.00am i 5.00pm
- Dydd Gwener: 9.00am i 4.45pm
- Ffôn: 01492 575222
Tu allan i oriau swyddfa
Dylech ffonio ein gwasanaeth y tu allan i oriau ar: 0300 123 3079.
Cytiau Cŵn Nant y Corn
Gallwch ffonio ein cytiau cŵn penodedig hefyd ar : (01745) 824646
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 10.00am i 4.30pm
- Dydd Sadwrn: 10.00am i 2.00pm
- Dydd Sul: ar gau
Cyfeiriad: Nant y Corn, Ffordd Llan San Siôr, Abergele, LL22 9BN
Ffioedd Rheoli Cŵn 2021/2022
Wrth hawlio eich ci, nodwch y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am gostau casglu a chadw eich ci. Mae'r ffi hon yn cynnwys Swm Statudol Rhagnodedig (a osodwyd gan y Llywodraeth).
Efallai bydd angen i chi dalu costau ychwanegol y milfeddyg hefyd.
Mae ffi ychwanegol o £25 os yw eich ci yn cael ei gymryd i’r cytiau tu allan i oriau.
Diwrnod | Pris |
Ffi Statudol (gan gynnwys casglu)
|
£75
|
Ffi cadw ddyddiol
|
£10
|
Cyfanswm diwrnod 1
|
£85.00
|
Cyfanswm diwrnod 2
|
£95.00
|
Cyfanswm diwrnod 3
|
£105.00
|
Cyfanswm diwrnod 4
|
£115.00
|
Cyfanswm diwrnod 5
|
£125.00
|
Cyfanswm diwrnod 6
|
£135.00
|
Cyfanswm diwrnod 7
|
£145.00
|
Cyfanswm diwrnod 8
|
£155.00
|
Ffioedd tu allan i oriau
|
£25.00
|
|
|
Methu cael coler ci
Mae Gorchymyn Rheoli Cŵn 1992 yn pennu bod pob ci, tra byddant mewn lle cyhoeddus, yn gorfod gwisgo coler a thag adnabod ag enw a chyfeiriad y perchennog arno. Os oes gan eich ci goler a thag, gwneir pob ymdrech i ddychwelyd y ci gartref heb orfod iddo fynd i gytiau cŵn a pheri costau.
Mae methu cael coler a thag ar eich ci yn drosedd. Gall hyn arwain at achos cyfreithiol yn eich erbyn a gallech gael dirwy o hyd at £5000.
Microsglodynnu
Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?
Mae’n orfodol i gi gael ei ficrosglodynnu a bod manylion diweddar yn cael eu cadw gan ddarparwr cronfa ddata wedi’i gymeradwyo. Mae hyn yn cael ei gynnwys yn Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015.
Mae’n rhaid i berchnogion cŵn sicrhau:
- Bod eu ci wedi’i ficrosglodynnu gan filfeddyg proffesiynol neu sglodynwr sydd wedi derbyn hyfforddiant a gymeradwywyd gan y llywodraeth.
- Bod gan gŵn bach ficrosglodyn a’u bod wedi’u cofrestru gyda chronfa ddata microsglodion a gymeradwywyd cyn eu bod yn 8 wythnos oed
- Bod y bridiwr wedi rhoi microsglodyn yn y ci a’i fod wedi’i gofrestru â chronfa ddata microsglodion a gymeradwywyd cyn mynd â’r ci adref. Mae’n rhaid i’r bridiwr ddarparu’r gwaith papur sy’n dangos hyn - gallant wynebu camau gorfodi os daw’n amlwg nes ymlaen nad oes microsglodyn gan y ci.
Ar ôl rhoi microsglodyn mewn ci a’i gofrestru ar gronfa ddata microsglodion, mae cyfrifoldeb parhaus ar berchennog y ci i:
- Ddiweddaru unrhyw newid i’r manylion â chronfa ddata’r microsglodyn. Gallwch wynebu dirwyo o hyd at £5000 os nad ydych yn cadw cofnodion diweddar.
- Sicrhau fod eich ci’n gwisgo tag coler er mwyn ei adnabod gyda’ch manylion cyswllt presennol arno. Mae cynnwys eich rhif ffôn yn ddewisol.