Mae Swyddogion Gwarchod Y Cyhoedd yn gweithio ar hyn o bryd efo Busnesau Conwy, asiantaethau a phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn diweddaru eu hunain â Rheoliadau'r Llywodraeth sydd gyda'r nod o gadw preswylwyr yn ddiogel a helpu i atal y lledaeniad o Covid 19.
Mae hi dal yn bosib cofnodi eich cwyn ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw gan mai gwaith ychwanegol yw hyn i ni ar gyfer y misoedd nesaf sy’n golygu bydd oedi gyda’r gwaith o brosesu a delio gyda’ch cwyn.
Os hoffech frwydro yn erbyn baw cŵn yn eich cymuned, riportiwch y troseddwyr I’r Tim Gorfodi Amgylcheddol yn Mwrdeistref Sirol Conwy, gan ddarparu cymaint o’r wybodaeth ganlynol â phosibl:
- Amseroedd y mae’r troseddau’n cael eu cyflawni
- Lleoliadau lle y cyflawnir y troseddau
- Disgrifiad o’r ci
- Disgrifiad o’r perchennog neu’r unigolyn â chyfrifoldeb
- Os yw perchennog y ci yn defnyddio car, disgrifiad o’r car a’r rhif cofrestru
Bydd y Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol yn defnyddio’r manylion hyn I dargedu eu patrolau yn fwy effeithiol, felly po fwyaf o wybodaeth y rhowch chi I ni, y mwyaf tebygol y bydd hi y bydd y troseddwyr yn cael eu dal
Ardaloedd â phroblem o ran baw cŵn
Ardaloedd â phroblem o ran baw cŵn yw ardaloedd sy'n destun mwy o weithgaredd gorfodi wrth ddarparu presenoldeb gorfodi gweladwy i atal troseddau rhag digwydd.
Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn (Bwrdeistref Sirol Conwy)
Mewn mannau ble mae baw cŵn yn broblem fawr, bydd arwyddion penodol yn cael eu codi i roi gwybod i berchnogion cŵn o statws ardaloedd ac i apelio i drigolion yr ardal i roi gwybod am y rhai sy'n gyfrifol am y drosedd ffiaidd.
Cysylltwch â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am faterion cŵn:
Gwasanaethau Rheoleiddio
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Rhif Ffôn: 01492 575222