ECO: Datganiad o Fwriad
ECO-Flex: Gwelliannau Effeithlonrwydd Ynni
Cynllun yw’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (Energy Company Obligation (ECO)) sy’n caniatáu gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar gyfer y cartrefi hynny sydd fwyaf tebygol o brofi tlodi ynni, a’r bobl hynny sy’n agored i effeithiau byw mewn cartref oer.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi Datganiad o Fwriad sy’n caniatáu darpariaeth y cynllun hwn.
Caiff grantiau eu gweinyddu gan asiantau neu osodwyr sy’n gweithio ar ran cwmnïau ynni. Maent yn casglu manylion cleientiaid, yn cynnal arolygon ynni mewn cartrefi ac yn trefnu gwaith ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.
Rhan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn hyn yn syml iawn yw edrych ar geisiadau a sicrhau y caiff yr amodau cymhwyso eu bodloni.
Landlordiaid ac aelodau’r cyhoedd – peidiwch ag anfon ffurflen gais atom ni’n uniongyrchol, rhaid gwneud hyn mewn partneriaeth â chwmni ynni, eu hasiant neu osodwyr.
Dogfennau wedi'u Disodli