Beth yw Addasu Cyfleusterau i’r Anabl?
- Mae addasiadau’n amrywio yn ôl anghenion y person, o ganllaw cydio syml neu gymorth i fynd i mewn ac allan o’r bath, i ychwanegu mwy o le at eich cartref (ond dim ond pan fo angen y lle ychwanegol hwn i fodloni anghenion aelod o’r aelwyd sydd ag anabledd).
- Mewn nifer o achosion, gall y Cyngor helpu deiliaid tai cymwys gyda chost addasiad, ond dim ond pan fo Therapydd Galwedigaethol wedi cytuno ar yr angen.
Beth yw Grant Addasu Cyfleusterau i’r Anabl?
- Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl (GCA) yn fath o gymorth ariannol a ddefnyddir i helpu addasu'r cartref. Mae rhai mathau o’r GCA yn orfodol ac wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth a nodir yn Neddf Grantiau Tai, Adfywio ac Adeiladu 1996.
- Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod terfyn o £36,000 ar GCA gorfodol. Dyma’r swm mwyaf o grant y gellir ei ddyfarnu, ond gallai fod yn llai mewn amgylchiadau lle mae disgwyl i’r ymgeisydd gyfrannu at gost y gwaith.
- Weithiau bydd angen gwneud gwaith addasu arall nad yw’r ddeddfwriaeth yn ei gynnwys. Mae polisïau’n amrywio o un ardal Cyngor i’r llall, ond yng Nghonwy, defnyddir Cymorth Cyfleusterau Dewisol i’r Anabl i dalu am eitemau a ystyrir yn angenrheidiol i sicrhau bod yr addasiad yn bodloni anghenion y person ag anableddau yn llawn.
Gellir dyfarnu GCA ar gyfer amrediad eang o addasiadau, gan gynnwys yr enghreifftiau nodweddiadol canlynol:
- Gosod lifftiau grisiau a theclynnau codi i sicrhau y gall person ag anableddau ddefnyddio dau lawr eu cartref;
- Addasiadau i ystafelloedd ymolchi
- Rampiau a chanllawiau y tu mewn a’r tu allan i wella mynediad i ac o’r cartref
- Gwneud newidiadau i geginau i sicrhau y gall person ag anableddau goginio a pharatoi bwyd a
- Gwella neu ddarparu system wresogi yn y cartref.
Dyma rai enghreifftiau nodweddiadol o waith y gellir talu amdanynt drwy’r Cymorth Cyfleusterau Dewisol i’r Anabl y tu mewn i’r cartref:
- Addasiadau i ddarparu cyfleusterau triniaeth angenrheidiol
- Addasiadau i alluogi person ag anableddau i weithio o’r cartref
- Man storio cadair olwyn.
I ddysgu mwy neu i wneud cais, cysylltwch ag Un Pwynt Mynediad.
Pwy all wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl / CCDA?
Gallwch wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl os ydych chi’n:
- Berchennog Tŷ
- Tenant yn rhentu gan landlord preifat
- Preswylydd cartref parc
- Yn byw ar gwch preswyl
Gall gwahanol drefniadau ariannu fod yn gymwys i denantiaid Cymdeithasau Tai. Os ydych chi’n denant Cymdeithas Dai, cysylltwch â’ch landlord am ragor o wybodaeth.
Oes rhaid i chi dalu unrhyw beth tuag at gost yr Addasiad?
- Yn ôl y gyfraith, rhaid i bawb sy’n gwneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl gael asesiad ariannol. Defnyddir hwn i gyfrifo faint y bydd rhaid i’r ymgeisydd dalu tuag at gost y gwaith, os bydd rhaid talu o gwbl.
- Os mai ar gyfer plentyn gydag anableddau mae’r addasiad, ni wneir asesiad ariannol, a bydd y Cyngor yn talu am unrhyw waith addasu y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol.
Sut mae’r broses Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn gweithio?
- Os ydych chi’n cael trafferth mynd i mewn i’ch cartref, dod allan ohono neu symud o’i amgylch, dylech gysylltu ag Un Pwynt Mynediad.
- Byddant yn gofyn nifer o gwestiynau ac yn penderfynu a ddylech chi gael eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.
- Bydd Therapydd Galwedigaethol yn ymweld â chi yn eich cartref i drafod eich sefyllfa'n fwy manwl. Yn benodol, byddant eisiau gwybod am natur eich cyflwr, y problemau corfforol sydd gennych a gwybodaeth am anghenion unrhyw aelodau teulu a gofalwyr sydd gennych.
- Lle gellir bodloni eich anghenion drwy ddarparu cyfarpar syml (e.e. ffrâm gerdded neu sedd arbennig i’r bath), bydd y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn ceisio darparu’r cyfarpar hwnnw cyn gynted ag y gallant.
- Os na ellir bodloni eich anghenion gyda chyfarpar o’r fath, bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cysylltu â’r Tîm Gwella Tai ac yn trefnu ymweliad ar y cyd i'ch cartref. Bydd staff Gwella Tai yn cwblhau prawf modd (asesiad ariannol) i gyfrifo eich cyfraniad (os fydd angen) y bydd gofyn i chi ei dalu tuag at y costau addasu.
- Os byddwch yn penderfynu mynd ymlaen â’r gwaith, bydd y Swyddog Gwelliannau yn llunio amserlen waith ac yn ceisio amcanbrisiau am wneud y gwaith.
- Ar ôl gwneud hyn, gellir cymeradwyo’r grant a, lle bo’n briodol, gellir cychwyn ar y gwaith addasu.
- Bydd y Swyddog Gwelliannau yn goruchwylio’r gwaith hyd nes y byddwch chi, yn fodlon ei fod wedi’i gwblhau.
- Ar ôl i’r gwaith addasu gael ei gwblhau, byddwn yn anfon Holiadur Boddhad y Cwsmer i chi, fydd o fudd i ni fonitro ansawdd y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
Sut ydw i’n cael cymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion?
Ydych chi’n cael trafferth symud o gwmpas a mynd i mewn ac allan o’ch cartref? Oes arnoch chi angen addasiadau yn eich cartref er mwyn diwallu eich anghenion penodol?Os felly, llenwch y ffurflen gais ar-lein isod. Bydd aelod o'r tîm Un Pwynt Mynediad yn cysylltu â chi i drafod pethau ymhellach.
Byddant yn gofyn nifer o gwestiynau i chi ac yn penderfynu a ddylid eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.
Treth y Cyngor
- Os ydych yn anabl a bod eich cartref wedi'i addasu, efallai byddwch yn deilwng i gael gostyngiad ar eich treth y cyngor. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag adran Treth Y Cyngor.
Diogelu Data
- Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth a rowch i ni yn gyfrinachol. Mae gennych hawl i weld y wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses addasu ar gael:
Gwelliannau Tai
Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AZ
Ffôn: 01492 574641
E-bost: hsg.financial.assistance@conwy.gov.uk
System Uwchraddedig ar gyfer Addasu Cartrefi (PDF, 283Kb)
Man Parcio i Bobl Anabl