Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Beth yw Addasiadau Tai?


Summary (optional)
start content

Addasiadau tai yw addasiad corfforol i’ch cartref sydd yn eich helpu i fynd i mewn ac allan o’ch cartref, yn gwella sut rydych chi’n symud o fewn eich cartref ac yn galluogi i chi gael mynediad diogel at gyfleusterau hanfodol ym mhrif ardaloedd eich cartref.

Mae yna dri math o addasiad; addasiad bychan, addasiad canolog ac addasiad mawr.

  • Enghreifftiau o Addasiadau Bychan: rheiliau gafael, rheiliau ffon, sêff i ddal goriadau, golau ychwanegol.
  • Mae enghreifftiau o Addasiadau Canolig yn cynnwys: Lifft grisiau, cawod y gellir cerdded i mewn iddi, ystafell wlyb, gosod ramp.
  • Mae enghreifftiau o Addasiadau Mawr yn cynnwys: Estyniad, lledu drysau, lifft trwy loriau.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth addasiadau tai sydd yn canolbwyntio ar y cwsmer yng Nghonwy er mwyn helpu pobl anabl a/neu bobl hŷn i fyw yn fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Safonau Gwasanaeth Addasiadau (Ffeil PDF)

I gael gwybodaeth- sut i wneud cais am addasiad

A oes cefnogaeth ariannol ar gael i helpu i dalu am addasiadau tai?

Oes, mae cymorth ariannol ar gael i:

  • Berchnogion tai
  • Tenant sydd yn rhentu gan landlord preifat
  • Tenant sydd yn rhentu gan gymdeithas dai
  • Preswylydd cartref parc
  • Yn byw ar gwch preswyl

Serch hynny, bydd ymgeiswyr yn destun asesiad ariannol er mwyn canfod faint (os o gwbl) y mae’n rhaid i’r ymgeisydd dalu tuag at gost y gwaith.

Fe gewch wybod am y math o gymorth sydd ar gael i chi ar ôl eich asesiad.

I gael gwybodaeth: Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

end content