Rydym yn eich gwahodd i ddarllen a chyflwyno sylwadau ar Adroddiad ar yr Asesiad Dros Dro o’r Farchnad Dai Leol.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 11 Mawrth 2022.
Diben yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yw darparu tystiolaeth gadarn i hysbysu'r Strategaeth Dai Leol a darparu tai fforddiadwy yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae hefyd yn hysbysu blaenoriaethau tai strategol a gellid ei ddefnyddio fel offeryn i drafod darpariaeth tai fforddiadwy wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a dyrannu Grant Tai Cymdeithasol.
Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn cael ei baratoi yn unol â chyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru; Canllaw Asesu'r Farchnad Dai Leol (2006) a’r canllawiau atodol Dechrau ar eich Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (2014). Mae'r fethodoleg hon hefyd wedi cael ei defnyddio i gyfrifo'r angen am dai fforddiadwy o fewn Cynllun Datblygu Lleol Conwy.
I gysylltu â'r Tîm Strategaeth Tai, neu i dderbyn mwy o wybodaeth, ffoniwch 01492 574225 neu e-bostiwch strategaethtai@conwy.gov.uk