Mae Datrysiadau Tai Conwy yn cynnig gwasanaeth prydlesu sector preifat didrafferth i landlordiaid yn ardal Sir Conwy.
Bydd landlordiaid yn cael:
- Taliadau rhent wedi’u gwarantu am 12 mis o’r flwyddyn
- Dim colli rhent pan fydd eiddo yn wag.
- Bydd unrhyw ddifrod a achosir gan y tenant yn cael ei drwsio heb unrhyw gost i’r landlord
- Ni fydd yn rhaid i’r landlordiaid ymwneud yn uniongyrchol â thenantiaid.
- Profion larymau tân wythnosol (os yw’r bloc cyfan yn rhan o’r cynllun)
- Archwiliadau iechyd a diogelwch am ddim
- Dim rhwymedigaethau Rhentu Doeth Cymru i’w bodloni.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050 a gofyn am siarad gyda Swyddog Mynediad Sector Preifat, neu anfonwch e-bost at housingsolutions@conwy.gov.uk
Mae benthyciadau/ grantiau eraill ar gael. Am fwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen isod:
Crynodeb o grantiau a benthyciadau gwella eiddo (Ffeil PDF)