Rydyn ni eisiau sicrhau y gall pawb gael mynediad i gartref sy'n addas iddyn nhw. I rai, gallai hyn olygu symud i gartref sydd â mwy o ystafelloedd gwely, neu gartref sydd wedi cael ei addasu i helpu rhywun i fyw'n annibynnol, neu symud o gartref sy'n gostus i'w redeg a'i gynnal a chadw.
Rydyn ni wedi creu arolwg i gael gwell syniad o'r rhwystrau i symud y gallai rhai pobl fod yn eu hwynebu ac i gael teimlad o sut y gallen ni ddarparu mwy o gymorth os a phryd mae pobl yn dewis symud.
Does dim angen i chi fod yn meddwl am symud i ateb y cwestiynau hyn, y cyfan rydym ei eisiau yw gwybodaeth am unrhyw beth a allai helpu pobl nawr ac yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg yn cymryd 10-15 munud i'w gwblhau ac i ddweud diolch, byddwn yn eich cynnwys mewn raffl.
(Diweddarwyd 26 Chwefror 2021)
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwaith yma, cysylltwch â Strategaeth Tai (strategaethtai@conwy.gov.uk).