Rhwng 2011 a 2013, mae Parc Gwledig a Gwarchodfa Natur Leol y Gogarth a
Pharc Gwledig Loggerheads (Sir Ddinbych) wedi cael cymorth ariannol o fwy na £207,000 gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy'r Prosiect Cymunedau a Natur sy'n cael ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae hyn wedi cyfrannu at fenter werth £462,500 sydd wedi gwella'r ddau safle fel eu bod bellach yn cynnig profiad gwych i ymwelwyr.
Mae'r ddau Barc Gwledig, sydd mewn ardaloedd awdurdod lleol cyfagos, yn gysylltiedig â chynefinoedd calchfaen ac yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn..
Mae'r wybodaeth isod yn ymwneud â Pharc Gwledig y Gogarth:
Rydym wedi gwella llwybrau ar y penrhyn, ac wedi darparu arwyddion dehongli yn Llandudno a ger y fynedfa i'r Parc Gwledig sy'n egluro sut i gyrraedd y safle a beth sydd i'w weld yno.
Cafwyd gwaith cadwraeth hefyd ar y penrhyn hwn sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd ei gynefinoedd. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys:
- rheoli rhywogaethau planhigion anfrodorol (sy'n bygwth disodli rhai o'r rhywogaethau brodorol prin)
- rheoli'r gweundir i'w wneud yn fwy amrywiol a chynyddu ei werth i fathau eraill o fywyd gwyllt
- rheoli'r boblogaeth o eifr fferal i sicrhau ei bod yn gynaliadwy yn y tymor hir
Ond mae'r prosiect wedi canolbwyntio ar Ganolfan Ymwelwyr y Parc Gwledig ger copa'r penrhyn. Cael cyflenwad ynni cynaliadwy oedd un o'r blaenoriaethau, ac mae hyn wedi'i sicrhau drwy osod paneli solar a phwmp gwres ffynhonnell aer. Mae'r galw am ynni wedi'i leihau'n bellach drwy inswleiddio tu mewn yr adeilad a defnyddio system goleuo ynni isel. Rydym hefyd wedi gwella'r arddangosfeydd dehongli drwy gynnwys ffilmiau diddorol a gwybodaeth ryngweithiol ar sgrin gyffwrdd. Mae gorsaf dywydd wedi'i gosod ar ben yr adeilad, felly mae ymwelwyr â'r ganolfan yn gallu gweld gwybodaeth gyfredol a hanesyddol am y tywydd lleol.
Mae staff y Parc Gwledig wedi cydweithio'n agos hefyd â grŵp gwirfoddol lleol, y Great Orme Exploration Society, i ddarganfod a diogelu rhai o nodweddion gwreiddiol y cloddfeydd ar y Gogarth. Rydym hefyd wedi darparu gwybodaeth i ddehongli'r hen system bwmpio "Tom a Jerry" a fyddai'n draenio dŵr o'r cloddfeydd pan oeddent yn cynhyrchu copr yn y 19 ganrif.
Beth am ddod am dro i'r Parc Gwledig a'r Ganolfan Ymwelwyr i weld y gwelliannau hyn a'u mwynhau?
Mae Cymunedau a Natur yn brosiect strategol sy'n cael ei arwain a'i reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac sydd wedi'i ran-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.