Os oes gennych chi unrhyw bryderon mewn perthynas â chamddefnyddio hawl dramwy gyhoeddus ar eich tir neu ger eich eiddo, cysylltwch â erf@conwy.gov.uk
Rydym ni’n gyfrifol am tua 1700km o hawliau tramwy cyhoeddus:
- Llwybrau troed - cerddwyr yn unig
- Llwybrau ceffylau – ceffylau, beics a cherddwyr
- Cilffordd Gyfyngedig – cerbydau nas gyrrir yn fecanyddol fel ceffyl a throl, ceffylau, beics a cherddwyr
- Cilffordd – cerbydau, ceffylau, beics a cherddwyr
Ystyrir cŵn a chadeiriau gwthio yn ychwanegiadau arferol ar hawl dramwy gyhoeddus. Rhaid cadw cŵn ar dennyn neu o dan reolaeth dynn ac ni ddylid gadael iddyn nhw grwydro oddi ar y llwybrau.
Mae'r sir yn dod o dan 4 map Explorer yr Arolwg Ordnans sy'n dangos lle mae'r hawliau tramwy.
- OL17 Yr Wyddfa/Dyffryn Conwy
- OL18 Harlech/Porthmadog a’r Bala
- 255 Llangollen a’r Berwyn
- 264 Dyffryn Clwyd
Rali Plains - Alwen
Rali Plains - gweld map
Lleoliad | Rhif hawl dramwy | Cyfeirnod grid | Rhewsm dros gau | Dyddiad | Llwybr amgen |
Cerrigydrudion |
FP 01 |
SH 9446 5408 - SH 9430 5406 |
Perygl i’r cyhoedd |
20 Mai 2023, 0:00 tan 8pm |
Dim llwybr amgen |
Cerrigydrudion |
FP 03 |
SH 9508 5374 - SH 9446 5408 |
Perygl i’r cyhoedd |
20 Mai 2023, 0:00 tan 8pm |
Dim llwybr amgen |
Cerrigydrudion |
FP 04 |
SH 9538 5443 - SH 9508 5453 |
Perygl i’r cyhoedd |
20 Mai 2023, 0:00 tan 8pm |
Dim llwybr amgen |
Cerrigydrudion |
FP 115 |
SH 9435 5407 - SH 9406 5441 |
Perygl i’r cyhoedd |
20 Mai 2023, 0:00 tan 8pm |
Dim llwybr amgen |
Cerrigydrudion |
FP 116 |
SH 9560 5300 - SH 9508 5373 |
Perygl i’r cyhoedd |
20 Mai 2023, 0:00 tan 8pm |
Dim llwybr amgen |
Cerrigydrudion |
FP 10 |
SH 9317 5382 - SH 9431 5304 |
Perygl i’r cyhoedd |
20 Mai 2023, 0:00 tan 8pm |
Dim llwybr amgen |
Llwybrau sydd ar gau dros dro ar hyn o bryd
Os hoffech chi weld rhai o’r gorchmynion cyfreithiol yma, llenwch ein ffurflen ar-lein.
Lleoliad | Rhif Hawl Dramwy | Cyfeirnod Grid | Rheswm dros gau | Dyddiad | Llwybr Amgen |
Betws y Coed |
FP 3 a 12 |
FP 3 SH 7842 5849 – SH 7897 5840FP 12 SH 7854 5838 – SH 7895 5805 |
Perygl i’r cyhoedd yn sgil torri coed |
Tan 28 Mawrth 2023 |
Dim llwybr amgen |
Betws y Coed |
FP 18 a 19 |
FP 18 SH 7797 5691 – 7803 5674FP 19 SH 7800 5694 – SH 7792 5686 |
Perygl i’r cyhoedd yn sgil torri coed |
Tan 28 Mawrth 2023 |
Dim llwybr amgen |
Betws y Coed |
FP 32 a 36 |
FP 32 SH 7609 5741 – SH 7692 5691
FP 36 SH 7694 5673 – SH 7686 5694
|
Perygl i’r cyhoedd yn ystod gwaith torri coed |
Tan fis Ebrill 2023 |
Defnyddiwch lwybrau eraill yn y goedwig |
Bro Garmon/Betws y Coed |
FP 58 (Sapper’s Bridge) |
SH 7983 5648 – SH 7959 5652 |
Perygl i’r cyhoedd gan fod dec y bont angen ei atgyweirio |
Tan 24 Awst 2023 |
Dim llwybr amgen |
Deganwy/Conwy |
73 |
SH 7862 7849 - SH 7862 7846 |
Perygl i’r cyhoedd |
Tan 15 Mehefin 2023 |
O’r llwybr beicio/llwybr yr arfordir dros y groesfan reilffordd ym Marina Cei Conwy i Station Road |
Dolgarrog |
04 |
SH 7691 6731 - SH 7655 6718 Llwybr igam-ogam o Tayler Avenue |
Perygl i'r cyhoedd yn sgil coed a cherrig mawr ar lethrau serth |
Tan fis Chwefror 2023 |
Dim llwybr amgen |
Dolgarrog |
09 |
SH 7739 6633 - SH 7794 6677 |
Perygl i'r cyhoedd yn ystod gwaith yn gysylltiedig â phont bibell Dolgarrog |
Tan 29 Mai 2023 |
Mae'r llwybr ar hyd Clark Street yn dal i fod ar agor |
Dolgarrog |
FP 10 |
SH 7663 6589 – SH 7671 6578 |
Perygl i’r cyhoedd oherwydd pont wedi’i difrodi |
Tan 21 Mehefin 2023 |
Dim llwybr amgen |
Eglwysbach |
34 |
SH 8119 6667 - SH 8152 6752 |
Perygl i’r cyhoedd |
Tan 24 Awst 2023 |
Dim llwybr amgen |
Llanfihangel |
FP 6 |
SH 9871 5097 – SH 9881 5128 |
Perygl i’r cyhoedd oherwydd bod angen atgyweirio’r bont |
Tan 24 Mai 2023 |
Dim llwybr amgen |
Trefriw |
FP 2, 3 |
SH 7671 6577 – SH 7686 6556 |
Perygl i’r cyhoedd oherwydd pont wedi’i difrodi |
Tan 21 Mehefin 2023 |
Dim llwybr amgen |
Trefriw |
FP 50 |
SH 7724 5929 – SH 7756 5913 |
Perygl i’r cyhoedd yn sgil torri coed |
Tan 28 Mawrth 2023 |
Dim llwybr amgen |
Perchnogion a Deiliaid Tir
Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i gynnal mynediad di-rwystr ar hyd hawliau tramwy.
Weithiau, gall hyn olygu cyflwyno rhybuddion i berchnogion neu ddeiliaid tir gael gwared ar rwystrau. Mae'n well gennym weithio mewn partneriaeth â pherchnogion a deiliaid tir i ddatrys y problemau hyn heb oedi.
Sut y gallwn ni helpu:
- cynnig cyngor ar lwybr hawl dramwy
- trefnu cyfarfodydd ar y safle i drafod unrhyw broblemau
- darparu arwyddion a physt cyfeirio i gadw defnyddwyr ar y llwybr cywir
- caniatáu a darparu camfeydd a gatiau ar hyd y llwybr, ar yr amod eich bod yn cytuno i’w cynnal a’u cadw at safon addas.
Cofrestr Datganiadau a Dogfennau Perchnogion Tir dan Adran 31(6) Deddf Priffyrdd 1980
Datganiad a Map Diffiniol
Mae'r Datganiad a'r Map Diffiniol yn gofnodion cyfreithiol o’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus. Os hoffech chi gael gweld y rhain, cysylltwch â ni.
Dim ond drwy orchymyn cyfreithiol y gellir diwygio’r Datganiad a'r Map Diffiniol.
- Mae Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus yn creu, dargyfeirio neu ddileu hawl dramwy gyhoeddus dan Ddeddf Priffyrdd 1980 neu Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
- Mae Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol yn diwygio'r Datganiad a'r Map drwy ychwanegu, dileu neu newid statws llwybrau ar sail tystiolaeth, dan Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981
- Gall Gorchmynion Eraill gau neu ddargyfeirio llwybrau dros dro yn ystod gwaith adeiladu neu pan fo difrod ar lwybr yn achosi perygl i'r cyhoedd, dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
I wneud cais am unrhyw un o’r gorchmynion cyfreithiol hyn, llenwch ein ffurflen arlein.