Amddiffynfeydd Arfordirol
Mae'r amddiffynfeydd arfordirol yn cynnwys morglawdd siâp-T alltraeth, yn ymestyn 100m i’r amfae ac ymestyn 90m o led rhwng y ddau grwyn presennol.
Ar yr un pryd byddem yn mewnforio tua 55,000mᶾ o gerrig mân (20mm i 100mm mewn diameter) i eistedd o flaen y morglawdd.
Bydd y morglawdd yn sicrhau bod deunydd newydd yn llai tebyg o gael ei gludo o’r gorllewin i’r dwyrain dros amser, gan gynyddu lefel amddiffyniad i’r morglawdd.
Gwelliannau i'r Promenad
Yn ogystal â gwella'r amddiffynfeydd arfordirol, rydym am wneud gwelliannau i'r promenâd er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'r cynllun.
Mae’r cynigion yn cynnwys:
- Ailwynebu’r promenâd
- Atgyweirio a gwella’r mynediad grisiog presennol i’r traeth
- Adeiladu ramp hygyrch newydd yn y pen dwyreiniol
- Adleoli’r maes parcio
- Gosod croesfan i gerddwyr a beicwyr ar Ffordd Glan y Môr
Plannu
Bydd planhigion newydd ar lan y môr yn cynnwys:
- Gwella’r gerddi cymunedol presennol gyda phlanhigion rhywogaethau naturiol ychwanegol
- Plannu blodau gwyllt ar hyd ymyl Ffordd Glan y Môr
Celfi Stryd
Bydd y celfi stryd newydd yn cynnwys:
- Meinciau
- Standiau Beics
- Canllaw newydd
- Cawod ar y traeth
Ffyrdd A Mynediad
- Croesfan newydd i gerddwyr a beicwyr ar Ffordd Glan y Môr
Ecoleg
Mae'r cynigion yn cynnwys pyllau glan môr a grëwyd o fewn y morglawdd alltraeth a grwyn presennol i wella ac annog bioamrywiaeth.
Mae’r cynlluniau i’w gweld ar gopi caled yn Llyfrgell Bae Penrhyn. Mae’r amseroedd agor i’w cael yma: Llyfrgell Bae Penrhyn.
Gallwch weld y dogfennau ategol megis y Datganiad Amgylcheddol a’r Datganiad Mynediad yma.
Adborth
Os hoffech wneud sylw am y cynigion hyn cyn i ni gyflwyno cais cynllunio, gallwch wneud hyn:
Ar-lein: Ffurflen Adborth
E-bost: llifogydd@conwy.gov.uk
Post:
Perygl Llifogydd a Seilwaith,
Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 11 Tachwedd 2021