Trefnodd Fforwm Arfordirol Llandudno, gan weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i ymgynghorwyr, sesiwn galw heibio cyhoeddus yng Nghanolfan Fictoria, Llandudno ddydd Gwener 27 a dydd Sadwrn 28 Gorffennaf 2019. Edrychodd trigolion ac ymwelwyr ar yr opsiynau sydd ar y rhestr fer ar gyfer rheoli traethau Llandudno a rhoi eu sylwadau.Cyflwynwyd sylwadau hefyd drwy ein gwefan.
Rydym wedi crynhoi’r sylwadau a gafwyd mewn adroddiad i gyd-fynd â’r Achos Busnes Amlinellol.
Gallwch weld y Byrddau Cyflwyniad ar Amddiffynfeydd Llifogydd Llandudno
Ar 8 Mehefin 2021, bu i’r Cabinet adolygu’r Achos Busnes Amlinellol drafft a chreu rhestr fer o’r dewisiadau. Bu i’r Cabinet nodi mai eu dewis a ffefrir ar gyfer Traeth y Gogledd oedd gosod tywod yn lle’r gefnen gerrig rhwng Vaughan Street a Chornel y Plant.
Hydref 2021: Rydym wedi cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol terfynol i Lywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad technegol ac ystyriaeth yn erbyn amcanion y rhaglen. Y cam nesaf fydd gwaith dylunio manwl ar y cynllun, a fydd yn golygu ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r gwaith a wnaed hyn yma ar y cynllun gwella amddiffyniad arfordirol wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy ei Raglen Rheoli Risg Arfordirol. Byddwn yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian ar gyfer camau’r dyfodol, gyda rhywfaint o’r arian yn dod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
http://www.llandudnocoastalforum.co.uk/
