Oherwydd yr anawsterau i sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd, bydd y prosiect hwn yn cael ei gwblhau fesul cam ar wahân.
Sut rydym yn blaenoriaethu
Rydym wedi asesu’r risg ar hyd ffrynt Hen Golwyn fel y gallwn flaenoriaethu’r gwaith. Y rhan ddwyreiniol rhwng Rotary Way a Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn) sydd yn y peryg mwyaf o gwympo, felly byddwn yn blaenoriaethu’r rhan hon cyn y rhan orllewinol rhwng Rotary Way a Phorth Eirias.
Mae’r cynllun yn cynnwys codi’r promenâd, fel yr ydym eisoes wedi ei wneud ar y rhan ym Mae Colwyn o Borth Eirias i’r ciosg Horizon Shine. Bydd hyn yn helpu i rwystro dŵr môr rhag dod drosodd i’r promenâd yn ystod stormydd. Yn gyntaf rhaid i ni adeiladu gwrthglawdd creigiau ar ochr arall wal y môr, gan y bydd hyn yn cefnogi ac yn gwarchod y promenâd uwch.
Ionawr 2022
Rydym wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer yr holl waith amddiffyn yr arfordir a gwelliannau i’r promenâd a mannau cyhoeddus sy’n weddill ar Bromenâd Hen Golwyn.
Mawrth 2022
Rydym wedi cael caniatâd cynllunio a thrwyddedau morol ar gyfer yr holl waith sy’n weddill ar yr amddiffynfa arfordirol. Rydym yn parhau i chwilio am y cyllid sy’n weddill i’n galluogi ni i gwblhau’r cynllun cyfan.