Mae ein toiledau cyhoeddus i gyd ar agor heblaw am:
- Bae Colwyn, Ivy Street - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Capel Curig, Snowdon View - yn aros i gael eu trwsio
- Cyffordd Llandudno - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Eglwysbach - ar gau dros
- Llanfairfechan, Ffordd yr Orsaf - yn aros i gael eu trwsio
- Llanrwst, Heol Watling - ar gau yn aros am waith twsio oherwydd fandaliaeth.
- Llanrwst, Parc Gwydir - yn aros i gael eu hailddatblygu
- Penmaenmawr, Fernbrook Road (anabl yn unig) - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Tywyn, Sandbank Road - mae cyfleusterau dros dro ar gael
Rhestr o doiledau cyhoeddus yng Nghonwy (PDF 1.34Mb)
Oriau agor
Yn ystod misoedd yr haf (o’r Pasg tan yr wythnos gyntaf ym mis Medi)
- Yn cael eu hagor rhwng 07:00 a 10:00 (dibynnu ar leoliad)
- Yn cael eu cau rhwng 19:00 a 21:00 (dibynnu ar leoliad)
Yn ystod misoedd y gaeaf (o’r ail wythnos ym mis Medi tan y Pasg)
- Yn cael eu hagor rhwng 07:30 a 10:00 (dibynnu ar leoliad)
- Yn cael eu cau rhwng 16:30 a 17:30 (dibynnu ar leoliad)
- Canolfan Ymwelwyr Y Gogarth: ar gau rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth
- Bydd y toiledau cyhoeddus ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan
Caiff y toiledau sy’n agor ag allweddi RADAR eu cloi ar yr un pryd oherwydd achosion niferus o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cwestiynau Cyffredin am Doiledau Cyhoeddus
Oes angen i mi dalu ac os felly, sut?
Mae'n rhaid talu i ddefnyddio rhai o'n cyfleusterau. Mae cyfarwyddiadau ar y drws ar sut i ddefnyddio’r peiriant talu gyda darnau arian. Ceisiwch beidio dal y drysau ar agor - bydd hyn yn gwneud niwed i’r cloeon ac yn golygu na fydd modd defnyddio’r toiledau.
Pam nad oes yna rywun yn gofalu am bob toiled?
Bydd staff ar y safle drwy’r dydd yn y cyfleusterau prysuraf a bydd staff eraill yn teithio rhwng toiledau.
Cynllun Toiledau Cymunedol
Mae gennym hefyd ymrwymiad i'r Cynllun Toiledau Cymunedol, sy'n gynllun gan Lywodraeth Cymru i annog busnesau lleol i agor eu toiledau i'r cyhoedd.
Mae croeso i chi ddefnyddio'r toiledau hyn am ddim os ydych yn gweld yr arwydd hwn.
Cynllun Toiledau Cymunedol yng Nghonwy (PDF 2.19Mb)