Gyda detholiad o ystafelloedd sydd ar gael i'w llogi, o’n canolfan ddigwyddiadau dan do, sy'n gallu dal hyd at 500 o gynrychiolwyr, i'n seddi dethol ger ochr y cae sy’n dal hyd at 30 o gynrychiolwyr, yn ogystal ag Ystafell Conwy sy’n darparu ar gyfer hyd at 100 o gynrychiolwyr, sydd hefyd â’r fantais ychwanegol o gael bar trwyddedig llawn.
Mae gennym amrywiaeth o offer, yn cynnwys system PA o’r radd flaenaf, llwyfannau, sgrin fawr, gliniaduron, setiau teledu, yn ogystal ag amrywiaeth o gynlluniau eistedd, a lliain bwrdd i helpu i roi gorffeniad proffesiynol i’ch digwyddiad.
Mae ein tîm arlwyo mewnol yn cynnig dewis bwydlen cynhwysfawr yn ogystal â phecynnau lluniaeth amrywiol, i helpu i gadw eich cynrychiolwyr yn hapus drwy gydol y dydd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â ni.