Nid oes llawer o bethau sy’n fwy cyffrous a phwysig na’ch diwrnod priodas. Ynghyd â’n cyfleusterau o safon uchel, mae gennym ni hefyd dîm ymroddgar o staff hynod broffesiynol a fydd yn ymdrechu i ychwanegu cyffyrddiad personol i’ch diwrnod arbennig.
Mae pob priodas yn unigryw i'r cwpl a’n haddewid ni yw cynnig pecyn unigryw bob tro. Mae ein pabell hardd yn cynnig y cefndir perffaith i chi a'ch gwesteion ac fe welwch ein bod yn cynnig y manylion, fel llieiniau gwyn ffres, system PA o’r radd flaenaf a goleuadau prydferth, i gystadlu yn erbyn unrhyw leoliad arall yn yr ardal.