O bobl chwaraeon elît i glybiau 'llawr gwlad', mae ein lleoliad yn cynnig cyfleoedd i bawb. Os ydych chi neu eich clwb â diddordeb mewn darganfod sut y gallai Eirias ddod yn faes hyfforddi lleol i chi, cysylltwch â ni.
Yn ogystal â chyfleoedd chwaraeon, mae Eirias hefyd yn cynnig lleoliad i gynnal achlysuron arbennig. O briodasau i gynadleddau a phopeth yn y canol, mae gan Eirias y cyfleusterau a'r arbenigedd i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiant. Dewch i wybod mwy am briodasau, cynadleddau a llogi preifat.