Mae’n darparu cyllid i unigolion sy'n byw yng Nghonwy sy'n dalentog mewn chwaraeon, addysg a'r celfyddydau. Nod y cynllun yw helpu unigolion i gyflawni eu potensial drwy hyfforddiant a datblygiad. Mae grantiau ar gael i bobl ym myd chwaraeon sy'n cystadlu ar lefel genedlaethol ac sydd angen cyllid ar gyfer costau hyfforddi.
Rydym yn aros am gadarnhad ar hyn o bryd o’r cyllid ar gyfer 2022-2023, bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei phostio yma maes o law.