Canolfan Hamdden Abergele
- Mae eich dosbarth yn cael ei gynnal ar y cae pob tywydd.
- Ewch trwy a heibio’r dderbynfa.
Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy
- Os ydych yn cymryd rhan mewn dosbarth Seiclo Grŵp bydd yn cael ei gynnal ar y Llecyn Gemau Amlddefnydd.
- Mae’r holl ddosbarthiadau eraill yn cael eu cynnal ar gae’r ysgol.
- Ar gyfer yr holl ddosbarthiadau ewch trwy brif fynedfa’r ganolfan hamdden a bydd aelod staff yn eich arwain at eich dosbarth.
- Ar gyfer Cyflyru’r Corff byddwch angen codi eich pwysau o’r dderbynfa.
Canolfan Ddigwyddiadau Eirias
- Bydd yr holl ddosbarthiadau yn cael eu cynnal ar/ger y trac athletau felly defnyddiwch faes parcio’r Ganolfan Ddigwyddiadau (mynedfa gyferbyn â’r orsaf dân).
- Yna gallwch gerdded trwy Giât C a mynd i gyfeiriad derbynfa’r Ganolfan Ddigwyddiadau.
- Bydd aelod staff a hyfforddwr yno i’ch helpu.
- Mae dosbarthiadau beicio grŵp wedi eu rhannu’n ddau lefel.
- Pan fyddwch yn cyrraedd cewch eich cyfeirio at y beic sydd bellaf i ffwrdd o’r dderbynfa.
- Ar ddiwedd y dosbarth bydd gofyn i chi adael yn y cyfeiriad arall (yr un olaf i gyrraedd = y cyntaf i adael).
Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
- Mae’r holl ddosbarthiadau yn cael eu cynnal ar y maes parcio felly parciwch ym maes parcio Tesco pan fyddwch wedi cyrraedd.
- Efallai y byddwch angen nôl offer o’r ganolfan hamdden.
- Mae system un ffordd yn ei le felly dilynwch yr arwyddion.
- Bydd staff y Ganolfan Hamdden ar gael i’ch helpu.
Os bydd angen mat arnoch nodwch na fyddwn yn eu darparu felly byddwch angen dod â mat a thywel gyda chi.
Mae’r holl offer ymarfer corff yn cael eu diheintio yn barod ar eich cyfer. Ni fydd ein peiriannau gwerthu ar gael felly dewch â diod gyda chi. Ni fydd ystafelloedd newid ar gael i’w defnyddio.
Cadwch eich pellter o eraill yn ystod yr ymweliad.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau eich dosbarth!