Mae ein pyllau padlo ar gau ar hyn o bryd, wrth i ni wneud gwaith i’r huwchraddio.
Dyma un o byllau padlo awyr agored mwyaf Cymru. Mae’n mesur 116m - 21m ac yn 2 droedfedd / 0.6 metr o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf, ac yn atyniad poblogaidd iawn yn ystod tymor yr haf.
Mae’r cyfleusterau ar y safle’n cynnwys:
- 'Caffi’r Pwll’ sy’n cynnig diodydd, byrbrydau, hufen iâ a theganau meddal i blant.
- Byrddau picnic a meinciau
- Toiledau cyhoeddus.
- Mae parc i blant hefyd gerllaw, gyda ffens derfyn ddiogel o’i amgylch.
Mae yna rywfaint o fannau parcio am ddim ar gael ar y promenâd a gerllaw, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yno’n gynnar i osgoi cael eich siomi. Mae’r gwasanaeth bws lleol yn pasio heibio’r safle’n rheolaidd, ac mae pob arhosfan o fewn pellter cerdded byr.
Lleoliad
Pwll Padlo Craig y Don,
Y Promenâd,
Colwyn Road,
Llandudno,
Conwy
LL30 3AA.