Mae ein pyllau padlo ar gau ar hyn o bryd, wrth i ni wneud gwaith i’r huwchraddio.
Ger llyn mawr, parc plant a Llecyn Gemau Amlddefnydd, mae hwn yn bwll petryal traddodiadol sy’n mesur 17m x 6m, ac sy’n 0.6m o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf. Gyda golygfeydd anhygoel tua Bangor ac Ynys Môn, mae'r pwll padlo'n fan delfrydol i fwynhau diwrnod hamddenol braf. Mae byrddau picnic gyda seddi ar gael ac mae’r ffens derfyn ddiogel o’i amgylch yn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i rieni. Mae yna gaffis a chludiant cyhoeddus o fewn pellter cerdded, gyda dewis o siopau coffi hefyd o fewn y dref.
Lleoliad
Pwll Padlo Llanfairfechan, West Shore Road, Llanfairfechan, Conwy LL33 0DA.