Mae ein pyllau padlo ar gau ar hyn o bryd, wrth i ni wneud gwaith i’r huwchraddio.
Yng nghanol ardal syfrdanol o hardd ar arfordir gogledd Cymru, dafliad carreg o’r A55. Gyda golygfeydd godidog o Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae pwll padlo Penmaenmawr yn lleoliad poblogaidd iawn i ymwelwyr a’r bobl leol fel ei gilydd. Mae’r pwll padlo traddodiadol ar siâp diemwnt ac mae’n mesur 11m x 8m. Mae’n 1 droedfedd / 0.3 metr o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf, ac mae hefyd yn cynnwys rhaeadr.
Gallwch fynd at y pwll padlo ar droed o’r briffordd drwy fynd ar hyd tanffordd, neu os ydych chi’n gyrru, mae yna rywfaint o fannau parcio ar un pen i’r promenâd.
Mae’r ‘Caffi Glan Môr' wedi’i leoli 50 llath yn unig o’r pwll padlo, ac mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos o fis Mawrth i fis Tachwedd, gan gynnig amrywiol fwydlenni megis brecwast trwy’r dydd, dewisiadau heb glwten, gamwn a sgampi, i enwi ychydig yn unig. Mae'n cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer y gallwch eu hyfed yn y caffi neu’r tu allan yn yr haul. Ar y diwrnodau heulog, poeth hynny gallwch brynu hufen iâ, lolis iâ a llawer mwy. Gallwch hefyd logi’r caban gwyliau gerllaw am y dydd – ewch draw i siarad â pherchnogion y caffi am ragor o wybodaeth. Mae parc i blant gerllaw sy’n cynnwys nifer o wahanol offer chwarae. Er diogelwch ychwanegol, mae ffens derfyn o amgylch y parc.
Lleoliad
Pwll Padlo Penmaenmawr, Beach Road, Penmaenmawr, Conwy LL34 6AZ.