Mae ein pyllau padlo ar gau ar hyn o bryd, wrth i ni wneud gwaith i’r huwchraddio.
Mae’r pwll padlo wedi’i leoli mewn man chwarae poblogaidd sy’n cynnwys llithrennau, siglenni, weiren wib ac offer chwarae eraill, yn ogystal â man gwelltog o faint da. Mae’r safle hefyd yn elwa o gael nifer o fyrddau picnic ac mae ffens derfyn ddiogel o’i amgylch. Er hwylustod, mae toiledau wedi’u lleoli o fewn tir y cyfleuster.
Mae lluniaeth ar gael o fewn tafliad carreg yn yr amrywiol gaffis, siopau hufen iâ a siopau eraill sydd wedi'u lleoli o fewn y gyrchfan hynod boblogaidd hon. Mae mannau gollwng cludiant cyhoeddus ardderchog yn y dref sy’n ei gwneud yn hawdd i chi gyrraedd y pwll padlo.
I’r rhai hynny ohonoch chi sy’n teithio mewn car, mae yna Faes Parcio Talu ac Arddangos gerllaw ar gornel Ffordd yr Abaty a Colwyn Avenue.
Lleoliad
Pwll Padlo Llandrillo-yn-Rhos,
Ffordd yr Abaty,
Llandrillo-yn-Rhos,
Bae Colwyn
LL28 4NG.