Diolch am gadw lle yn un o'n dosbarthiadau.
Darllenwch yr wybodaeth ganlynol cyn eich ymweliad:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich dosbarth ar amser. Ni chewch fynediad unwaith y bydd y dosbarth wedi cychwyn.
- Ni fydd yr ystafelloedd newid ar agor. Bydd y toiledau ar agor.
- Dewch â'ch mat eich hun os oes angen un ar gyfer eich dosbarth. Ni fyddwn yn darparu matiau i aelodau eu defnyddio.
- Dewch â photel ddŵr lawn gyda chi gan na fydd y ffynhonnau dŵr ar gael.
- Peidiwch â chario pethau diangen gan na fydd lle i storio bagiau nac allweddi.
- Os ydych chi wedi cadw lle mewn dosbarth yng Nghanolfan Ddigwyddiadau Eirias, defnyddiwch y maes parcio gyferbyn â’r orsaf dân a dewch i mewn drwy Giât C.
Polisi Mynediad
- Rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi'ch eithrio, wrth fynd i mewn i'n cyfleusterau ac wrth symud o gwmpas
- Arhoswch gartref os ydych chi neu rywun ar eich aelwyd:
- yn dioddef o dymheredd uchel (38 Gradd Celsius neu uwch)
- yn pesychu’n barhaus neu’n fyr o wynt
- wedi colli’r gallu i arogli neu flasu
Mae’n hanfodol bod pob aelod:
- yn cadw pellter cymdeithasol
- yn cyrraedd wedi gwisgo’n addas ar gyfer y gweithgaredd
- yn defnyddio diheintydd dwylo’n rheolaidd
- yn glanhau offer cyn ac ar ôl eu defnyddio
- yn mynd adref i gael cawod
- yn dilyn arwyddion a chanllawiau gan staff
Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad ac yn edrych ymlaen at gael eich croesawu!
Tîm Ffit Conwy