Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Parcio, ffyrdd a theithio Teithio Llesol Llwybrau at y Dyfodol - Teithio Llesol

Llwybrau at y Dyfodol - Teithio Llesol


Summary (optional)
Llwybrau Teithio Llesol at y dyfodol, gan gynnwys palmantau a ffyrdd sy’n bodoli eisoes y gallwn ni eu gwella, wedi’u dangos ar ein mapiau rhwydwaith integredig
start content

Mae ein map rhwydwaith integredig yn dangos llwybrau Teithio Llesol at y dyfodol. Gall y rhain fod yn llwybrau newydd sbon, neu’n balmantau a ffyrdd sy’n bodoli eisoes y gallwn eu gwella i gyrraedd safon y canllawiau Teithio Llesol.

Fe gafodd y llwybrau hyn eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2018. Dim ond dechrau’r broses yw’r llwybrau hyn ac mae’n rhaid i ni ailgyflwyno cynlluniau gwell pob tair blynedd.

Mae’r cynigion hyn am lwybrau’n rhan o raglen welliant 15 mlynedd o hyd. Bydd creu’r llwybrau’n dibynnu ar gyllid ar gyfer y cynllun Teithio Llesol, a gallai’r llwybrau newid wrth iddynt gael eu datblygu.

Mae mwy o wybodaeth am lwybrau newydd yma

Mae’r mapiau isod yn dangos beth mae’r cyhoedd wedi gwneud cais ar eu cyfer hyd yma a beth yw’r ffordd orau i ni ddarparu’r llwybrau hyn, yn ein barn ni.

SYLWCH: Gan nad ydym ni ar y cam dylunio manwl eto, mae pob llwybr sydd i’w weld ar y map yn cynrychioli cyfeiriad cyffredinol y llwybr, nid ei leoliad terfynol yn union.

Cysylltu â ni:

Os hoffech chi roi adborth i ni am lwybrau sy’n bodoli’n barod neu awgrymu llwybr neu gyswllt newydd, cysylltwch â ni:

Dweud Eich Dweud – Teithio Llesol Conwy – Commonplace

Dros e-bost: teithiollesol@conwy.gov.uk  

end content