Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 19 Awst 2022.
Diolch i chi am ymweld a bod yn fodlon rhoi eich syniadau i ni. Rydym angen eich cymorth wrth i ni ddatblygu cynlluniau i wneud Llandudno yn lleoliad gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Wrth uwchraddio a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd rydym yn anelu i wneud teithio llesol y ffordd arferol ar gyfer siwrneiau lleol. Mae hyn yn lleihau traffig diangen ac yn cynorthwyo teuluoedd i deithio’n ddiogel ac mewn modd cynaliadwy.
Mae Cymru’n unigryw gan fod deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau hyrwyddo a gwella teithio cynaliadwy. Deddf Teithio Llesol (Cymru) sy’n nodi’r uchelgais clir o roi cerdded a beicio yn ganolog ar gyfer teithiau lleol. Er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae’n hanfodol bod pobl leol yn rhan o’r sgwrs, er mwyn i fwy o bobl deimlo y gallant ddewis cerdded, olwynion neu feicio yn lle’r car ar gyfer teithiau byr yn lleol.
Rhannwch eich barn yma a rhannwch y wybodaeth i annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan.
Ynglŷn â'r prosiect
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar Landudno, ardal Craig y Don o Nant y Gamar Road, Roumania Drive, Queens Road, Balfour Road a Clarence Drive i Clarence Court. Gallwch hefyd ddweud wrthym ni am bethau y tu allan i’r ardaloedd hyn, ond ein prif ffocws yw gwella ardaloedd lle mae’r angen mwyaf am newid a’r potensial mwyaf i fwy o bobl deithio’n llesol.
Rydym wedi derbyn cyllid grant gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith ymchwilio, dylunio ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Dewiswyd y llwybr hwn oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio gan bobl sy’n teithio pellteroedd byr yn rheolaidd; i’r ysgol ac o’r ysgol, canolfannau hamdden a chymunedol, safleoedd cyflogaeth, siopa’n lleol a chyswllt cyfnewid cludiant.
Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys:
- Croesfan ‘sebra’ paralel ar Queens Road
- Croesfan ‘sebra’ paralel wedi’i uwchraddio ar Clarence Crescent
- Croesfannau ychwanegol ar gyfer cerddwyr, yn enwedig yn Ysgol y Gogarth ac Ysgol Craig y Don
- Lledu troedffyrdd a llwybrau defnydd a rennir
- Parthau ‘Stryd Dawel’ a marciau ffordd ychwanegol
- Gostegu traffig ar Nant y Gamar Road, Balfour Road a diwygiadau ar Roumania Drive
- Triniaeth ymuno ffordd ymyl ar gyfer mwyafrif y ffyrdd sy’n ymuno â’r llwybr
Sut ydw i’n cymryd rhan?
Edrychwch ar y cynlluniau i weld rhagor o fanylion am y cynigion.
Achubwch ar y cyfle hwn i ddweud eich dweud a rhannu eich safbwyntiau ar y cynigion ar gyfer Craig y Don a sut y gellir gwella cerdded, teithiau ar olwynion a beicio yn yr ardal.
Gallwch weld y cynlluniau a rhoi sylwadau yn:
Canolfan Gymunedol Craig Y Don,
Queens Road,
LL30 1TE
Dydd Mercher 20 Gorffennaf 2022 2pm - 7pm
Dewisiadau hygyrch
Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille.
Gallwn ddarparu disgrifiadau ar lafar o'r llwybr dros y ffôn. Mae yna swyddog sy’n siarad Cymraeg a swyddog sy’n siarad Saesneg ar gael.
Mae preswylwyr yn gallu ffonio Tîm Cyngor AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog. Os na fydd y swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu i rywun eu ffonio yn ôl.
Beth sy’n digwydd wedyn?
Bydd yr holl adborth o’r ymgynghoriad yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn ofalus wrth i ni lunio dyluniad terfynol. Byddwn yn gwneud cais am ragor o gyllid i gyflawni’r gwaith adeiladu; felly mae’n bwysig ei fod yn adlewyrchu safbwynt pobl leol.