Ar ôl gwneud gwaith wrth ymyl gwesty’r Tudno Castle, Mostyn Broadway, Llandudno, mae’n rhaid newid trefn y ffordd er mwyn cadw llwybrau ar agor i gerddwyr.
Bydd y gwaith yn cynnwys symud y groesfan sebra gyfredol er mwyn gwella llif y traffig. Mae’r gyffordd rhwng Mostyn Street, Vaughan Street a Mostyn Broadway yn achosi tagfeydd o bryd i’w gilydd - bydd agor y lonydd cyfeiriadol a symud y groesfan sebra yn helpu i sicrhau bod y traffig yn symud. Mae’r dyluniad yn seiliedig ar Ganllawiau Dylunio Teithio Llesol ar gyfer croesfan sebra.
Gweld cynllun lleoliad arfaethedig y groesfan (PDF)
Os oes gennych sylwadau i’w gwneud am y cynnig hwn, anfonwch y sylwadau erbyn 5 Mehefin 2020 at traffig@conwy.gov.uk neu at:
Y Gwasanaeth Traffig
Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Blwch Post 1
CONWY
LL30 9GN