Mae’r Bathodyn Glas yn galluogi i unigolion sydd â nam symudedd difrifol barcio yn agos at y man y maent yn ei gyrchu. Nid oed yn rhaid i unigolyn fod yn yrrwr i wneud cais am Fathodyn Glas. Mae’r bathodyn ar gyfer unigolyn a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gar pan fo’r unigolyn hwnnw yn deithiwr.
Gwirio i weld os ydych chi'n gymwys
Pryd i ail-ymgeisio
Nid ydym yn adnewyddu bathodynnau. Os bydd eich bathodyn yn dod i ben, bydd angen i chi ail-ymgeisio. Gallwch ymgeisio hyd at 12 wythnos cyn y bydd eich bathodyn presennol yn dod i ben. Nid ydym yn anfon llythyron atgoffa, oherwydd mae’r dyddiad y bydd y bathodyn yn dod i ben i’w gweld yn glir ar y bathodyn.
Dychwelyd bathodynnau sydd wedi dod i ben
Mae'n rhaid i chi ddychwelyd eich bathodyn sydd wedi dod i ben. Os byddwch yn methu gwneud hyn gall eich bathodyn gael ei dynnu oddi wrthych.
Dychwelwch y bathodyn i'r cyfeiriad isod:
Blue Badge
PO Box 1
Conwy
LL30 9GN
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Riportiwch unrhyw newid mewn amgylchiadau i bluebadge@conwy.gov.uk