Beth yw man parcio penodol i bobl anabl?
Gall deiliaid Bathodynnau Glas ofyn i ni am help i barcio mor agos â phosibl i’w cartref. Gallwn ddarparu man parcio wedi’i baentio i drigolion anabl.
Mae hwn at ddefnydd preswyl yn unig pan nad oes man parcio oddi ar y stryd wrth eich cartref. Ni allwch wneud cais am fan parcio mewn unrhyw leoliad arall, fel tŷ aelod o’ch teulu.
Ydw i’n gymwys i gael man parcio i bobl anabl?
Nid ydych yn gymwys i gael man parcio i bobl anabl os:
- Oes gennych ddreif yn barod
- Yw’n ymarferol i chi barcio tu mewn i derfyn eich cartref
- Oes modd creu man parcio y tu mewn i derfyn eich cartref
- Nad ydych yn gyrru a bod gennych ofalwr abl (Rydym yn credu ei bod yn rhesymol disgwyl i’ch gofalwr stopio’r car er mwyn i chi fynd allan o’r car ac yna symud i fan parcio, neu i symud eich cadair olwyn i'ch cartref o fan parcio eich car)
- Ydych yn byw ar ffordd breifat neu ffordd heb ei mabwysiadu
Efallai y byddwn yn dal yn gallu helpu gyda newidiadau eraill i wella eich diogelwch.
Gallwch wneud cais am Grant Addasu Cyfleusterau i'r Anabl sy’n ddyfarniad sy'n ddibynnol ar brawf modd i bobl sy'n byw yn eu cartref eu hunain neu gartref wedi'i rentu'n breifat. Gall hwn gael ei ddefnyddio i ledu eich dreif neu roi lle parcio ag arwyneb caled, er enghraifft.
Gallwch wneud cais i gael eich asesu am le parcio i bobl anabl os:
- Ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas
- Oes car wedi ei gofrestru yn eich cyfeiriad ac mae’r ceidwad cofrestredig yn byw yno
- Ydych yn byw yn y cyfeiriad am fwy na 10 mis y flwyddyn
- Ydych yn methu â cherdded neu bron yn methu â cherdded
- Ydych yn methu â symud eich hun mewn cadair olwyn neu’n methu â chael eich helpu i symud mewn cadair olwyn (mae hyn yn cynnwys os oes gan eich gofalwr broblemau iechyd sy’n ei gwneud yn anodd iddynt symud eich cadair olwyn)
- Ydych yn derbyn y gyfradd uwch o Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer symudedd neu Daliad Annibyniaeth Bersonol (os ydych chi dan 65 oed) neu Lwfans Gweini (os ydych yn 65 oed neu’n hŷn)
- Ydych yn methu â dod o hyd i le parcio yn agos at eich cartref am y rhan fwyaf o’r amser ar y rhan fwyaf o ddyddiau
Neu os:
- Oes gennych anabledd sydd angen goruchwyliaeth gyson, gan nad ydych yn ymwybodol o berygl neu fod gennych broblemau ymddygiad
- Ydych yn methu â chael lle i barcio yn agos at eich cartref am y rhan fwyaf o’r amser ar y rhan fwyaf o ddyddiau
Os yw’r rhain yn berthnasol i chi, bydd Therapydd Galwedigaethol yn gwirio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi. Os yw’r Therapydd Galwedigaethol yn argymell y gallech elwa o gael man parcio i bobl anabl, byddant yn anfon atgyfeiriad at ein hadran yr Amgylchedd, Ffordd a Chyfleusterau.
A oes lleoedd na allaf gael man parcio i bobl anabl ynddynt?
Mae angen i ni wneud yn siŵr y byddai man parcio newydd i bobl anabl yn ddiogel i chi a defnyddwyr eraill y ffordd.
Hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael man parcio i bobl anabl, ni allwn roi un ar y ffordd yn agos i’ch cartref os:
- Yw parcio wedi ei wahardd
- Yw’r terfyn cyflymder yn fwy na 40mya
- Yw gwelededd wedi ei gyfyngu (er enghraifft ar ben allt neu’n agos at gyffordd)
- Yw’r ffordd yn rhy gul i gerbyd dosbarthu fynd heibio i gar wedi ei barcio heb fynd ar y palmant
- Oes unrhyw berygl arall i ddiogelwch ar y ffyrdd neu os byddai’r man parcio yn achosi rhwystr
- Yw’r man parcio newydd yn cynyddu cyfanswm y mannau parcio i bobl anabl ar y stryd i fwy na 5%
Oes angen i mi dalu?
Oes. Byddwn yn gofyn i chi am daliad o £574.80 fel cyfraniad. Ni fyddwn yn codi’r tâl hwn nes fod y man parcio wedi ei gwblhau.
Beth yw’r broses?
Cam Un
Bydd Therapydd Galwedigaethol yn gwirio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi. Bydd hyn yn cynnwys ymweld â chi yn eich cartref. Byddant yn gofyn am eich caniatâd i gysylltu â’ch meddyg neu ymgynghorydd os oes angen mwy o wybodaeth arnynt. Os yw’r Therapydd Galwedigaethol yn argymell y gallech elwa o gael man parcio i bobl anabl, byddant yn anfon atgyfeiriad at ein hadran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau.
Cam Dau
Bydd ein hadran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau yn dod i asesu eich stryd i weld a allwn ni ddarparu man parcio i bobl anabl yn ddiogel. Ni all man parcio newydd i bobl anabl achosi perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd nac amharu ar gydbwysedd lleoedd parcio i drigolion yn yr ardal.
Cam Tri
Os gallwn ni gynnig man parcio i chi’n ddiogel, byddwn yn cytuno ar y lleoliad gyda chi. Efallai na fyddwn yn gallu cynnig lle i chi yn syth y tu allan i’ch cartref, ond byddwn yn ei osod mor agos ag y gallwn ni.
Cam Pedwar
Byddwn yn gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer man parcio i bobl anabl ar y briffordd. Dogfen gyfreithiol yw hon sy’n ein caniatáu i ychwanegu’r marciau ffordd ar gyfer man parcio i bobl anabl. Mae hefyd yn golygu y gellir rhoi Hysbysiad Tâl Cosb (tocyn parcio) i yrwyr sy’n parcio yn y man parcio heb awdurdod.
I greu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, rhaid i ni hysbysebu yn y wasg a gosod hysbysiadau ar y stryd yn gofyn am unrhyw wrthwynebiadau. Rhaid i ni ystyried pob gwrthwynebiad a'u datrys cyn y gallwn ddechrau’r gwaith. Os na allwn ddatrys y gwrthwynebiadau, efallai na fydd modd i ni ddarparu man parcio i bobl anabl.
Cam Pump
Byddwn yn dod i farcio eich man parcio newydd dynodedig i breswylydd anabl.
Cam Chwech
Fe fyddwn ni’n rhoi trwydded preswylydd gyda’ch man parcio i chi. Fe fydd angen i chi arddangos eich trwydded preswylydd a’ch bathodyn glas pan fyddwch chi’n defnyddio’r man parcio.
Pa mor hir y bydd yn cymryd?
Gall gymryd rhwng 6 mis a 18 mis wedi’r atgyfeiriad gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i farcio'r man parcio ar eich ffordd.
Sut allaf wneud cais am asesiad man parcio?
Manylion cyswllt
Un Pwynt Mynediad
Ystafell Un Pwynt Mynediad
Canolfan Hamdden Colwyn,
Parc Eirias,
Ffordd Abergele,
Bae Colwyn,
Bwrdeistref Sirol Conwy,
LL29 7SP
E-bost: lles@conwy.gov.uk
Ffôn: 0300 456 1111
Ffacs: 01492 576 330
Beth os nad oes bellach angen man parcio yn fy nghyfeiriad?
Os nad oes angen man parcio i bobl anabl arnoch chi bellach, neu nad yw deiliad y Bathodyn Glas bellach yn byw yn y cyfeiriad, rhowch wybod i ni ar AFfCh@conwy.gov.uk
Gweler hefyd