Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws newydd yn gadael i chi ddefnyddio gwasanaethau 27 o weithredwyr bysiau a bron i 200 o lwybrau bysiau ledled Gogledd Cymru, sy’n golygu y gallwch chi deithio o gwmpas yn hawdd heb boeni am ba fws i’w ddefnyddio.
Lle allwch chi ddefnyddio tocyn 1bws?
Gallwch ddefnyddio tocyn 1bws ar unrhyw wasanaeth bws yng Ngogledd Cymru o fewn y siroedd canlynol, neu i ac o’r siroedd hyn:
- Ynys Môn
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Wrecsam
Allwch chi ddim defnyddio tocynnau 1bws ar wasanaeth Townlynx 28 (Yr Wyddgrug i’r Fflint) na gwasanaethau twristiaeth (fel yr X10).
Gwasanaethau bws sy’n gweithredu yn Lloegr
Dim ond ar y gwasanaethau hynny sy’n dechrau neu’n gorffen yng Nghymru ac yn gweithredu yn uniongyrchol i Gaer, Ellesmere Port neu’r Eglwys Wen (Sir Amwythig) y gallwch chi ddefnyddio tocyn 1bws.
Gwasanaethau Traws Cymru®
Mae tocynnau 1bws yn ddilys ar y gwasanaethau Traws Cymru® canlynol:
- T2 (Bangor - Aberystwyth)
- T3 (Wrecsam – Y Bermo)
- T10 (Corwen - Bangor)
- T12 rhwng Wrecsam a’r Waun
- T19 (Blaenau Ffestiniog - Llandudno)
Sut i brynu tocyn 1bws
Gallwch brynu tocyn 1bws gan yrrwr eich bws cyntaf. Derbynnir arian parod neu ddull di-gyffwrdd o dalu ar bob bws (ond ni allwch dalu’n ddi-gyffwrdd ar wasanaeth Townlynx 6 (Yr Wyddgrug – Pant-y-mwyn).
Prisiau tocynnau 1bws
- Oedolyn - £6.00
- Plentyn (hyd at 16 oed) - £4.00
- Deiliad ‘Fy Ngherdyn Teithio’ - £4.00
- Consesiwn (deiliaid cerdyn teithio rhatach Lloegr neu’r Alban) - £4.00
- Teulu (hyd at 2 oedolyn a hyd at 3 o blant) - £13
- Mae deiliaid cerdyn teithio rhatach Cymru yn teithio - am ddim
Sut i ddefnyddio tocyn 1bws
I ddefnyddio tocyn 1bws, dangoswch y cod QR ar y tocyn i’r darllenydd ar bob bws y byddwch chi’n ei ddefnyddio wedyn.
Am ba hyd mae’r tocyn 1bws yn ddilys?
Mae tocyn 1bws yn ddilys am ddiwrnod cyfan, hyd at, ac yn cynnwys y bws olaf.
Dewch o hyd i'ch arosfan, eich gorsaf neu cynlluniwch eich taith efo Traveline