Adnewyddu eich cerdyn bws
Rydym yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cardiau Teithio Rhatach ar eu newydd wedd ar draws yr awdurdod erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019. Bydd y cardiau hyn yn dod yn lle’r ‘cardiau bws’ sydd gan bobl ledled Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn eich cynghori i ailymgeisio am gerdyn ar ei newydd wedd mewn da bryd cyn diwedd y flwyddyn er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dal i allu mwynhau manteision teithio rhatach. Bydd yr hen gardiau yn cael eu derbyn tan 31 Rhagfyr 2019.
Mae’r cardiau ar eu newydd wedd yn cynnig yr un manteision a hawliau teithio am ddim â’r cardiau presennol. Mae’r cardiau newydd wedi cael eu dylunio i gael eu defnyddio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol.
Os ydych chi angen cymorth, beth am ofyn i ffrind, aelod o’r teulu neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo – gan ddefnyddio ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur. Gallwch hefyd alw heibio’ch llyfrgell leol neu swyddfa’r Cyngor am help. Os oes gennych chi gerdyn yn barod, ewch ag o gyda chi, gyda’ch dyddiad geni, cod post cofrestru’r cerdyn gwreiddiol (sef eich cod post chi pan wnaethoch gais am y tro cyntaf) a’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Gwneud cais am gerdyn newydd
www.trc.cymru/cerdynteithio
Cwestiynau ac Atebion
https://trc.cymru/cy/CaA