Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Partïon Stryd ar achlysur y Coroni


Summary (optional)
Canllaw 4 cam i helpu trigolion baratoi dathliadau yn y gymuned ar gyfer achlysur y Coroni (6 i 8 Mai 2023)
start content

Os ydych yn meddwl am drefnu parti stryd ar achlysur y Coroni, defnyddiwch y Canllaw 4 Cam hwn i Bartïon Stryd i baratoi at y dathliadau 

 

  • 1.  Bydd ar drefnwyr angen caniatâd gan dîm Priffyrdd y Cyngor i gynnal parti stryd.  Ni chodir ffi am hyn.

Ffurflen gais am gau ffordd (PDF, 127KB)

Anfonwch eich ffurflen gais i streetworks@conwy.gov.uk gyda manylion y ffordd sydd angen ei chau, a dyddiad ac amser y cau.   Byddwch angen gwneud cais am hyn o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 14 Ebrill 2023.

Byddwn yn rhoi caniatâd i bartïon stryd a gynhelir ar benwythnos y Coroni yn unig, sef 6 i 8 Mai 2023.

  • 2.  Y trefnwyr fydd yn gyfrifol am drefnu arwyddion cau ffordd a gwyriadau, os oes angen

Byddwch hefyd angen dweud wrth yr holl breswylwyr a busnesau yn yr ardal fydd yn cael eu heffeithio gan gau’r ffordd.

  • 3.  Gwiriwch a oes arnoch chi angen trwydded ddigwyddiadau dros dro

    • Ni fydd arnoch angen rhybudd digwyddiad dros dro:

      • os yw eich parti stryd yn barti preifat i breswylwyr
      • os nad yw eich parti yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw i ddenu pobl
      • os nad ydych yn gwneud arian

    • Bydd arnoch angen rhybudd digwyddiad dros dro:

      • os ydych yn gwerthu tocynnau ymlaen llaw
      • os ydych yn gwerthu alcohol
      • os ydych yn codi ffi mynediad

Bydd arnoch angen gwneud cais am rybudd digwyddiad dros o leiaf 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw.

Gwnewch gais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am drwyddedau adloniant neu alcohol, cysylltwch â Thîm Trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 576626.

  • 4.  Rydym yn rhoi cyngor taer i drefnwyr drefnu Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer eich digwyddiad
end content