Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwyddedau priffordd


Summary (optional)
Os ydych yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw waith ar y briffordd (gan gynnwys palmentydd) mae’n rhaid i chi gael trwydded.
start content

Os ydych yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw waith ar y briffordd (gan gynnwys ffyrdd a palmentydd) mae’n rhaid i chi gael trwydded.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • gosod sgipiau ar y briffordd
  • codi neu dynnu sgaffald neu balis
  • gosod craeniau, craeniau bach codi pobl a llwyfannau symudol ar y briffordd
  • defnyddio goleuadau traffig dros dro

Rydym yn cyflwyno trwyddedau i gloddio yn y briffordd a gosod neu atgyweirio cyfarpar yn y briffordd hefyd.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Stryd yn rhoi Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro ar gyfer cau ffyrdd neu waharddiadau parcio ar gyfer gwaith ffordd a digwyddiadau.

Sut i wneud cais

Gallwch lawrlwytho pecyn cais, a dylid ei lenwi’n gyflawn (gan ddefnyddio’r rhestr wirio lle bo hynny’n briodol) a’i
anfon drwy e-bost at: gwaithstryd@conwy.gov.uk

Anfonwch eich taliad drwy siec, yn daladwy i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a’i hanfon at:

Gwaith Stryd,
Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau,
Blwch Post 1,
CONWY,
LL30 9GN


Trwyddedau priffordd

Trwydded Disgrifiad Amser prosesu Cost Cyfeirnod SW  
Trwydded Adran 50 (Preswyl)  I wasanaethu un annedd preswyl gydag 1 darn o gyfarpar  15 diwrnodgwaith (lleiafswm)  £591.60  SW/1620 (ROLU) 
Trwydded Adran 50 (Preswyl)  Gosod 2 ddarn o offer newydd mewn 1 ffos (e.e dŵr budr a dŵr wyneb)  15 diwrnodgwaith (lleiafswm)  £867.60  SW/1600 (ROLU) 
Trwydded Adran 50 (Manwerthu neu ddiwydiannol)  Gosod cyfarpar newydd yn y briffordd ar ystad fanwerthu neu ddiwydiannol  15 diwrnodgwaith (lleiafswm)  £867.60 + £75 fesul uned  SW/1620 (ROLU) 
Trwydded Adran 50 (Datblygiad newydd)  Gosod cyfarpar newydd yn y briffordd ar gyfer 2 neu fwy o anheddau, gan gynnwys tai, byngalos, fflatiau a masionettes  15 diwrnodgwaith (lleiafswm)  £899 + £7100 fesul uned  SW/1600 (ROLU) 
Trwydded Adran 171  Atgyweirio neu amnewid cyfarpar presennol  15 diwrnodgwaith (lleiafswm)  £364.80  SW/1610 (ROL) 
Trwydded Adran 171b  Gollwng deunyddiau adeiladu neu peiriannau ar y briffordd  5 diwrnodgwaith  £141.60  SW/1620 (ROD) 

 

Item Disgrifiad Amser prosesu Cost 
Craen, craen bach a llwyfan symudol  I ddefnyddio un o’r llwyfannau a enwir ar y briffordd / droedffordd  3 diwrnodgwaith (lleiafswm)  £100 
Trwydded sgaffald  Gosod sgaffald ar eiddo ar ochr y briffordd neu droedffordd  2 ddiwrnod gwaith  £70.80 + £12.86 gwaharddiadparcio (£90 yn ôl-weithredol heb drwydded) 
Trwydded sgip  Gosod sgip ar y briffordd  2 ddiwrnod gwaith  £49 + £12.86 gwaharddiadparcio (£90 yn ôl-weithredol heb drwydded) 
Arwyddion  I osod arwydd ar briffordd a fabwysiadwyd.Fel datblygiadau tai newydd neu fusnesau  £192 am yr arwydd cyntaf a £96 am bob arwydd ychwanegol 
Croesfan Cerbydau (Adran 184)  3 diwrnod gwaith  £364.80 

 

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro (TTRO)

TTRO (Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro) Hyd y Rheoliad. Amser prosesu Cost Cyfeirnod SW 
Drwy Hysbysiad (os ydych angen eich trwydded am 3 diwrnod neu lai)  3 diwrnod neu lai  20 diwrnod gweithio  £727.20  SW/1300 
Drwy Orchymyn (os ydych angen eich trwydded am ddim mwy na 18 mis)  Uchafswm o 18 mis.  6 wythnos (lleiafswm)  £2638.80  SW/1400 
Hysbysiad Argyfwng(os oes arnoch angen eich trwydded yn syth)  Uchafswm o 2x21 diwrnod ac yna posibilrwydd o archeb 18 mis.  Gellir ei wneud hyd at 24 awr, erbyn 10am ar ddydd Llun, ar ôl i ffordd gau  £1088.40  SW/1100 
CymalauHeddlu Tref (Digwyddiad elusennol/dinesig nid er elw)  Uchafswm o 3 diwrnod.   28 diwrnod  Dim tâl (gan fod prosesu yn cael ei weld fel cyfraniad y Cyngor tuag at y digwyddiad)  SW/1500 
Digwyddiadau Arbennig(Digwyddiad neu ras ar raddfa fawr)  £2638.80 
Cau Ôl-weithredolUnrhyw ffordd yn cau heb gais TTRO a gymeradwywyd. Neu argyfwng ble nad yw’r cais wedi’i dderbyn o fewn 24 awr  £2199.00 
Rheoliadau Traffig Dros Dro  Dim tâl 

 

end content