Os ydych yn meddwl am drefnu parti stryd ar y Jiwbilî, defnyddiwch y Canllaw 4 Cam hwn i Bartïon Stryd i baratoi at y dathliadau.
-
Bydd ar drefnwyr angen caniatâd gan dîm Priffyrdd y Cyngor i gynnal parti stryd.
Ni chodir ffi am hyn.
Gwnewch gais am gau ffordd ar gyfer parti stryd
Anfonwch eich ffurflen gais i streetworks@conwy.gov.uk gyda manylion y ffordd sydd angen ei chau, a dyddiad ac amser y cau.
Byddwch angen gwneud cais am hyn o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 05/05/22.
Byddwn ond yn rhoi caniatâd i bartïon stryd a gynhelir ar benwythnos y Jiwbilî Ddiemwnt, 2 – 5 Mehefin 2022 yn unig.
-
Y trefnwyr fydd yn gyfrifol am drefnu arwyddion cau ffordd a gwyriadau, os oes angen.
Byddwch hefyd angen dweud wrth yr holl breswylwyr a busnesau yn yr ardal fydd yn cael eu heffeithio gan gau’r ffordd.
-
Gwiriwch a oes arnoch chi angen trwydded ddigwyddiadau dros dro
Ni fydd arnoch angen rhybudd digwyddiad dros dro:
os yw eich parti stryd yn barti preifat i breswylwyr
os nad yw eich parti yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw i ddenu poblos nad ydych yn gwneud arian
Bydd arnoch angen rhybudd digwyddiad dros dro:
os ydych yn gwerthu tocynnau ymlaen llawos ydych yn gwerthu alcoholos ydych yn codi ffi mynediad
Bydd arnoch angen gwneud cais am rybudd digwyddiad dros dro o leiaf 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw, yn costio £21.
Gwnewch gais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am drwyddedau adloniant neu alcohol, cysylltwch â Thîm Trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar (01492) 576626.
-
Rydym yn rhoi cyngor taer i drefnwyr drefnu Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer eich digwyddiad