Cyn i chi ddechrau teithio, cliriwch yr holl eira oddi ar eich car, gan gynnwys y to a'r goleuadau. Os ydych yn gyrru gydag eira trwchus ar y to a'r boned gallai syrthio, gan leihau gwelededd y gyrrwr neu syrthio i lwybr cerbyd neu gerddwr arall.
Gwnewch yn siŵr fod eich ffenestr flaen yn glir o rew a stêm – mae’n anghyfreithlon gyrru heb allu gweld yn iawn drwy bob ffenest.
Byddwch yn wyliadwrus o rew - chwiliwch am gliwiau fel rhew ar y palmant neu ar ffenestr flaen eich car cyn i chi gychwyn ar eich taith, a byddwch yn ofalus.
Cadwch bellter lle gallwch stopio’n ddiogel rhyngoch chi a’r car o’ch blaen - gadewch gymaint â 10 gwaith y bwlch arferol.
Cadwch eich cyflymder yn isel, cyflymwch yn raddol a symudwch i gêr uwch mor sydyn â phosibl.
Ceisiwch beidio â brecio yn sydyn - gall gloi eich olwynion a gallwch sgidio ymhellach.
Gwyliwch am gerbydau'r gaeaf sy'n taenu halen neu'n defnyddio swch eira. Mae ganddynt oleuadau oren sy'n fflachio ac maent yn teithio yn araf - tua 25mya. Arhoswch yn ôl oherwydd gall daflu halen neu ddŵr ar draws y ffordd. Peidiwch â goddiweddyd os nad yw'n ddiogel i chi wneud hynny - efallai bod eira heb ei glirio ar y ffordd o'ch blaen.
Pethau i'w cadw yn eich car
- crafwr rhew
- dadrewydd
- ffôn symudol wedi'i wefru, a gwefrydd
- torsh
- pecyn cymorth cyntaf
- rhaff lusgo
- blancedi
- côt gynnes a bŵts
- gwifrau cyswllt
- rhaw eira
- triongl rhybudd
- bwyd a diod cynnes mewn fflasg
- sbectol haul i'ch helpu i weld mewn haul isel yn y gaeaf