Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer fferm wynt arfaethedig oddi ar Arfordir Gogledd Cymru wedi cael ei gyhoeddi a bydd hyn yn cynnwys nifer o Eneraduron Tyrbin Gwynt ar y môr gyda chyfanswm capasiti o dros 100 Megawat (MW).
Mae’r ffurf hwn o ddatblygiad yn ffurfio Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol o dan Adran 15(3) Deddf Cynllunio 2008 a bydd y Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Mae’r ymgynghoriad cyfredol yn ceisio hysbysu ymgyngoreion ar y cynigion a’r effeithiau posibl sy’n gysylltiedig â’r camau adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw a digomisiynu’r prosiect.
Gellir gweld yr ymgynghoriad ar y ddolen isod ac mae’n cynnwys delweddau o’r golygfannau arfordirol allweddol a gellir eu canfod hefyd yn Rhifyn 6 yr Adroddiad Effaith Amgylcheddol Rhagarweiniol.
Gan mai ymgynghorai yn unig yw CBS Conwy yn y broses hon ac ni fydd yn delio â’r cais, dylid anfon unrhyw sylwadau ar y cynigion hyn i: awelymor@rwe.com
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 11 Hydref, 2021.