Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Cynllun Peilot Dychwelyd Ernes Polytag

Cynllun Peilot Dychwelyd Ernes Polytag


Summary (optional)
Bydd prawf o Gynllun Dychwelyd Ernes digidol yn digwydd yn Ucheldir Colwyn, Conwy, ym Mehefin a Gorffennaf.
start content

Trawsgrifiad Fideo (PDF)

Cwestiynau Cyffredin

Pa sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn?

Beth yw Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS)?

Mae’n system i annog defnyddwyr i ailgylchu drwy ennill gwobrwyon. Mae’r defnyddiwr yn talu ernes fach sy’n cael ei had-dalu pan ddychwelir yr eitem i siop neu i fan casglu i’w hailgylchu.

Yn draddodiadol mae hyn wedi’i wneud gyda Pheiriannau Gwerthu Gwrthdro, lle mae pobl yn dychwelyd pecynnu gwag ac yn cael gwobr yn gyfnewid am hyn. Mewn gwledydd eraill, fel yr Almaen, mae’r system wedi’i chyflwyno drwy ddefnyddio Peiriannau Gwerthu Gwrthdro, gyda rhai canlyniadau dadleuol. Nid oes gan yr Almaen system casglu wrth ymyl palmant, fel y Deyrnas Unedig.

Yn y cynllun peilot hwn, bydd aelwydydd yn gallu defnyddio eu system casglu wrth ymyl palmant arferol i ddychwelyd pecynnu, a sganio cod ar y pecynnu i hawlio eu hernes.

Beth yw Polytag?

Mae Polytag yn gwmni sydd wedi dechrau yng Nghymru sydd wedi datblygu system arloesol i dagio ac olrhain eitemau unigol o becynnu.

Mae’r tagiau hyn yn galluogi deiliaid tai i gefnogi a defnyddio System Dychwelyd Ernes hawdd yn y cartref, sy’n gwella’r systemau casglu wrth ymyl palmant cyfredol yng Nghymru.

Mae Polytag wedi’i ddewis gan Lywodraeth Cymru i redeg cynllun peilot lleol yn Ucheldir Colwyn.

Mwy o wybodaeth ar wefan y cwmni: https://www.polytag.co.uk/


Pam ydyn ni'n rhedeg y Cynllun Peilot hwn

Pam bod Cymru eisiau bod ar flaen y gad o ran y datblygiad hwn?

Cymru sydd â’r 3edd gyfradd uchaf o ailgylchu yn y byd. Gyda’r uchelgais o ddod yn gyntaf.

Casgliad ymgynghoriad ledled y Deyrnas Unedig gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) oedd y byddai Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gweithredu Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2023.

Y ffordd draddodiadol i weithredu Cynllun Dychwelyd Ernes yw drwy Beiriannau Gwerthu Gwrthdro, peiriannau sy’n dychwelyd ernes (arian fel arfer) i’r defnyddiwr sy’n ei fwydo ag eitemau o becynnu.

Mae Peiriannau Gwerthu Gwrthdro yn ddrud (mae Defra yn amcangyfrif cost defnyddio o £2.2 biliwn yn y Deyrnas Unedig a £500 miliwn y flwyddyn i’w gweithredu), yn anghyfleus i ddefnyddwyr a manwerthwyr (sy’n gorfod rhoi gofod manwerthu gwerthfawr i weithredu’r peiriannau a storio’r pecynnu) ac yn tynnu gwerth oddi wrth finiau ymyl palmant.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau penderfynu pa dechnolegau y gellid eu defnyddio i alluogi a chefnogi Cynlluniau Dychwelyd Ernes digidol yn y cartref. Mae Polytag wedi’i ddewis i redeg y cynllun peilot yng Nghonwy i brofi hyn.

Beth yw maint y broblem?

Mewn un gair: ENFAWR! Mae yna 28 biliwn o eitemau pecynnu ar grwydr bob blwyddyn y Deyrnas Unedig – bydd y rhain yn destun y Cynllun Dychwelyd Ernes (ffynhonnell: Cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon: Crynodeb gweithredol a chamau nesaf  - GOV.UK (www.gov.uk))

Ynglŷn â'r Cynllun Peilot

Pryd fydd y cynllun peilot yn cael ei redeg?

Ym mis Mehefin a Gorffennaf 2021 am bedair wythnos.

Sut fydd y cynllun peilot yn gweithio?

  1. Cysylltir â 550 aelwyd yn ardal Ucheldir Colwyn gan ein tîm Polytag penodol, i ofyn a ydynt eisiau cymryd rhan yn y cynllun peilot.  
  2. Bydd aelwydydd sy’n cyfranogi yn cael 6 photel o ddŵr mwynol (1.5 litr), a phob un â chod Polytag unigryw. Bydd aelwydydd yn cael pecyn gwybodaeth yn egluro sut i lawrlwytho’r ap (i sganio’r eitemau) a sticer i’w roi ar eu cynhwysydd ailgylchu ymyl y palmant.
  3. Yn ystod y 4 wythnos o’r cynllun peilot, bydd cyfranogwyr yn defnyddio’r poteli o ddŵr mwynol er eu hwylustod.
  4. Cyn rhoi’r poteli gwag yn eu bocs ailgylchu arferol, bydd y cyfranogwyr yn defnyddio’r ap Polytag i sganio’r codau unigryw.

    - Bydd hyn yn dweud wrth y system Polytag bod y botel wedi’i rhoi allan i’w hailgylchu.
  5. Bydd y criw ailgylchu, ar y diwrnod casglu arferol, yn sganio’r codau Polytag yn ystod eu rownd.

    - Bydd hyn yn dweud wrth y system Polytag bod y botel wedi’i nodi gan y criw ailgylchu.

    - Bydd tocyn gwobr rhithiwr o 20c yn cael ei roi wedyn drwy’r ap, yn dweud wrth ddeiliad y tŷ bod y botel wedi’i hailgylchu’n llwyddiannus.
  6. Bydd y tocynnau rhodd yn cael eu rhoi i ysgol leol wedi’i henwebu a bydd Polytag yn rhoi arian cyfatebol hyd at uchafswm o £1,000.

Sut mae deiliaid tai yn cymryd rhan?

Os yw deiliad tŷ yn byw yn Ucheldir Colwyn, bydd ein tîm Polytag mewn cysylltiad am y cynllun peilot. Byddant yn egluro pryd y bydd yn dechrau, sut bydd yn gweithio a beth sydd angen i ddeiliaid tai ei wneud. Yn ystod y cam hwn, mae’r cynllun peilot wedi’i gyfyngu i Ucheldir Colwyn yn unig.

App Store (iOS, iPhone): https://apps.apple.com/gb/app/polytag/id1552368461

Google Play (Android): https://play.google.com/store/apps/details?id=com.cube.polytag

Pam y gwnaethoch chi ddewis Ucheldir Colwyn?

Ticiodd Ucheldir Colwyn bob gofyniad ar gyfer y cynllun peilot hwn; y nifer cywir o aelwydydd, siop leol yn yr ardal ac ysgol. Yn bwysicaf oll, mae aelodau o’r gymuned yn ailgylchwyr brwd ac wedi cyfranogi mewn prosiectau ailgylchu eraill yn y gorffennol.

Beth am yr aelwydydd sydd heb fynediad at ffôn clyfar?

Os nad oes gan ddeiliad tŷ fynediad at ffôn clyfar, gallant gymryd rhan o hyd. Y cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw rhoi gwybod i aelod o’r tîm Polytag a rhoi’r eitemau allan i’w casglu fel yr arfer. Does dim angen camau pellach. Bydd y criw casglu ailgylchu’n cael gwybod a byddant yn sganio’r eitemau hyn gyda fersiwn arbennig o’r ap.

Nid wyf yn gallu sganio’r label Polytag ar y poteli plastig a gefais gennych. 

Weithiau bydd eich ffôn yn cymryd ychydig o eiliadau i ffocysu. Gan ddefnyddio ap Polytag, pwyswch y botwm sganio a rhowch y label Polytag sydd ar y botel yng nghanol golwg y camera, rhowch eich ffôn tua 3 modfedd/7.5cm oddi wrtho a bydd yn adnabod y cod.

Ym mhle ddylwn i osod y sticer â chod arno ar y cynhwysydd ailgylchu?

Rhaid i’r sticer fod yn weladwy i’r criwiau casglu pan fyddan nhw’n gwagio eich cynhwysydd. Yn ddelfrydol, dylai’r sticer gael ei osod ar ochr blwch y rhan blastig yn eich troli ailgylchu. 

Beth fydd yn digwydd i’r poteli plastig sy’n cael eu casglu yn y cynllun peilot? 

Ar hyn o bryd mae holl blastigau cymysg Conwy yn cael eu hailgylchu yn y DU yng Nghyfleuster Adfer Plastigau Jayplas yn Alfreton, South Normanton.   

Darllenwch ragor am yr hyn sy'n digwydd i ddeunyddiau sy'n cael eu casglu i'w hailgylchu.


Buddion y Cynllun Peilot

A fydd hyn yn cynyddu cyfraddau ailgylchu?

Dyma un o’r pethau y dyluniwyd y cynllun peilot i’w ddarganfod. Mae cyfradd ailgylchu trefol cyffredinol Cymru oddeutu 65%, gan wneud Cymru’r genedl gyda’r drydedd gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd.  Wrth i ni anelu at fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 (lle i bob pwrpas, mae’r holl ddeunyddiau’n cael eu hailgylchu 100%), mae Cynllun Dychwelyd Ernes yn debygol o fod yn offeryn pwysig i gyflawni’r uchelgais hwn.

Faint o arian y bydd yn ei godi i’r ysgol?

Bydd tocyn gwobr 20c yn cael ei roi am bob potel a ailgylchir fel rhan o’r cynllun peilot. Bydd hwn yn cael ei roi i ysgol leol wedi’i henwebu a bydd Polytag yn rhoi arian cyfatebol hyd at uchafswm o £1,000.


Ar ôl y Cynllun Peilot

Sut bydd y cynllun peilot yn cael ei werthuso?

Bydd Wrap Cymru’n gwerthuso llwyddiant y cynllun peilot yn annibynnol, gan ddadansoddi’r data a gesglir drwy’r ap, y tîm casglu ailgylchu a gwastraff a thrwy gyfweld sampl o’r cyfranogwyr.

Beth yw’r camau nesaf os bydd y cynllun peilot yn llwyddiant?

Os ystyrir y cynllun peilot yn llwyddiant gan Wrap Cymru, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno’n rhanbarthol ddiwedd 2021, gyda’r uchelgais i’w gyflwyno’n genedlaethol erbyn 2023.

end content