Polisi Dim Gwastraff Ychwanegol a Chaead Wedi Cau
Bydd criwiau casglu yn casglu sbwriel sydd ar ymyl y palmant mewn bin ar olwynion wedi cau yn unig. Ni fyddant yn casglu:
- bagiau neu eitemau ychwanegol sydd wrth ymyl y bin ar olwynion
- biniau ar olwynion sydd wedi’u gorlenwi ac nad oes modd cau’r caead yn iawn.
Os oes gennych wastraff ychwanegol neu os na fydd y caead ar eich bin ar olwynion yn cau yn iawn oherwydd bod gormod o wastraff, ewch â’r gwastraff i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Canllawiau Ail Fin
Yn gyffredinol, mae pob aelwyd yn cael un bin ar olwynion 240l. Ond mae achosion penodol lle gall cartref gael ail fin ar olwynion.
Os oes gennych 6 neu fwy o bobl yn byw yn eich aelwyd, gallwch wneud cais am ail fin ar olwynion cyn belled eich bod yn ailgylchu’r cyfan y gallwch chi. Byddwn yn gofyn am eich amgylchiadau a gwirio eich bod yn gymwys pan eich bod yn ymgeisio am ofod bin ychwanegol.
Os oes llai na 6 o bobl yn byw yn yr aelwyd, bydd yr ail fin yn cael ei symud oddi yno.
Gall pob aelwyd wneud cais am gynwysyddion ailgylchu ychwanegol
Gall holl drigolion Conwy ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mochdre ac Abergele i gael gwared ar wastraff cartref a deunyddiau i’w hailgylchu yn ddiogel ac yn gyfleus.
Er mwyn atal masnachwyr rhag defnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn anghyfreithlon, rydym wedi sefydlu cynllun trwyddedu, i sicrhau y gall trigolion ddefnyddio eu cerbydau eu hunain, cerbydau gwaith neu gerbydau wedi’u llogi i ymweld â'r canolfannau.
Os ydych yn berchen ar fan neu gerbyd o fath masnachol nad oes arwydd arni, gallwch wneud cais am Drwydded Fan Ddomestig, sy’n rhoi’r hawl i chi ymweld â'r canolfannau 20 gwaith y flwyddyn. Os ydych yn berchen ar gerbyd gydag arwydd wedi’i ysgrifennu arni, neu os ydych wedi llogi cerbyd, gallwch wneud cais am drwydded Un-tro, a fyddai'n caniatáu un ymweliad fesul trwydded. Galwch wneud cais am ddwy drwydded Un-tro y flwyddyn.
Gweler Trwyddedau Faniau a Cherbydau o Fath Masnachol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ar-lein neu lwytho ffurflen gais i lawr.
Os hoffech gysylltu â ni am bolisïau a chynlluniau gwastraff ac ailgylchu, llenwch y ffurflen hon.