Y tair rheol er mwyn rheoli gwastraff yw Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu.
Mae ailddefnyddio eitemau yn well o lawer i’r amgylchedd na'u hanfon nhw i safleoedd tirlenwi neu hyd yn oed eu hailgylchu. Mae ailddefnyddio yn arbed ynni ac adnoddau newydd.
Mae llawer o eitemau tai y gellir eu defnyddio o hyd, hyd yn oed os ydym ni wedi blino arnynt neu wedi prynu rhai newydd.
Dodrefn ac offer tŷ mawr
- Gallwch dalu am gasgliad swmpus ar gyfer dodrefn ac offer tŷ mawr megis oergelloedd, poptai a pheiriannau golchi nad oes arnoch eu hangen bellach.
Gallwch fynd ag eitemau i Gydweithredfa Crest i gael eu trwsio, eu rhoi i elusen neu eu gwerthu ymlaen. Hyd yn oed os na ellir ailddefnyddio eitemau fel ag y maent, mae’n bosibl defnyddio rhannau ohonynt neu eu hailgylchu.
Darganfod mwy am gasgliadau swmpus
mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnig gwasanaeth casgliadau am ddim ar gyfer dodrefn, eitemau trydanol ac eitemau arbenigol y gellir eu hailwerthu yn eu siopau. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth clirio tai.
- Gallwch fynd ag eitemau i’r Canolfannau Ailgylchu Domestig am ddim. Mae Siop Ailddefnyddio Mochdre yn prynu eitemau y gellir eu hailddefnyddio ac yn eu gwerthu ymlaen i gefnogi Hosbis Dewi Sant.
Darganfod mwy am y Siop Ailddefnyddio
Dillad
- Bob bythefnos, gallwch roi dillad, bagiau ac esgidiau i’w casglu o ymyl y palmant.
Caiff eitemau eu golchi a'u hailddefnyddio gan Gydweithredfa Crest.
Darganfod mwy am gasgliadau dillad y bag piws
- Mae nifer o elusennau hefyd yn croesawu rhoddion dillad, llyfrau, bagiau, teganau ac esgidiau o ansawdd da.
Eitemau trydanol bach
- Bob pythefnos, gallwch roi eitemau trydanol bach i'w casglu o ymyl y palmant.
Caiff eitemau eu trwsio a'u hailddefnyddio gan Gydweithredfa Crest.
Darganfod mwy am gasgliadau eitemau trydanol y bag pinc
Gwneud elw ar bethau nad ydych eu hangen
Yn hytrach na’u taflu nhw, gwnewch ychydig o elw drwy werthu'r eitemau yn lleol ar Preloved.co.uk neu ar Farchnad Facebook.
Eu pasio ymlaen
Rhowch eich eitemau i gartref newydd drwy Conwy Freegle. Efallai y bydd rhywun wirioneddol eisiau eich hen bethau!
Clytiau
Os hoffech chi roi cynnig ar opsiwn amgen i glytiau tafladwy er mwyn arbed arian ac i helpu’r amgylchedd, rydym yn cynnig arian yn ôl ar glytiau go iawn.
Cofrestru ar gyfer cyflwyniad i Glytiau Go Iawn.