Os felly, rydym wedi cynnwys nifer o ddolenni cyswllt a dogfennau pwysig a allai eich helpu i ddeall y Gwasanaeth Iechyd Meddwl a’r fframwaith ddeddfwriaethol y mae’n gweithredu ynddo.
Sut mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn cael eu darparu yng Nghonwy
Mae gwasanaethau i unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu darparu ar hyn o bryd trwy drefniant partneriaeth gyda BIPBC a Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych.
Gofal sylfaenol
Ymdrinnir â gwasanaethau ar gyfer llawer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl drwy ein Tîm Gofal Sylfaenol sydd, yn dilyn asesiad, yn gallu cynnig cyngor, cefnogaeth a therapïau siarad.
Gofal eilaidd
Mae ein Timau Gofal Eilaidd wedi eu lleoli o fewn dau Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Conwy. Maent yn cynnwys Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Gweithwyr Cymdeithasol, Seicolegwyr, Therapyddion Galwedigaethol a Seiciatryddion. I ddechrau byddwch yn cael eich asesu gan aelod o'r tîm a allai roi cyngor neu gymorth i ddatrys eich problemau yn uniongyrchol gyda chi. Os teimlir bod angen gweithiwr allweddol arnoch, dyrennir aelod o’r tîm i chi a fydd yn cytuno ac yn llunio cynllun gofal gyda chi gan nodi natur y cymorth a fydd yn cael ei ddarparu i'ch cefnogi.
Gwasanaethau Cefnogi Eilaidd
Efallai y bydd eich gweithiwr allweddol yn penderfynu eich bod angen cyfnod o gefnogaeth yn y cartref neu yn y gymuned gan weithiwr cymorth i helpu i oresgyn eich problemau ac yn eich galluogi i ailddechrau eich gweithgareddau dyddiol arferol.