Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn gyfrifol am weithio gyda phobl ifanc 10-17 oed sy'n mynd i drafferthion gyda'r gyfraith. Ein nod yw eu hatal rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu ac aildroseddu. Rydym yn edrych i mewn i gefndir person ifanc ac yn ceisio eu helpu i gadw draw o droseddu.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ddinbych
- Heddlu Gogledd Cymru
- Swyddogion Prawf
- Gwasanaethau Iechyd, Tai a Phlant
- Gyrfa Cymru
- Gwasanaethau camddefnyddio sylweddau
- Ysgolion a gwasanaethau addysg
- Elusennau a'r gymuned leol
Ein gwaith
Rydym yn dod i gysylltiad â pherson ifanc os ydynt:
- yn dod i drafferthion gyda'r heddlu neu gael eu harestio
- yn cael eu cyhuddo o drosedd ac yn rhaid iddynt fynd i'r llys
- yn cael eu collfarnu o drosedd ac yn cael dedfryd
Rydym hefyd yn cynnig cymorth i ddioddefwyr troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall hyn fod drwy sesiynau cyfiawnder adferol, lle mae'r bobl sydd wedi cael eu niweidio a'r bobl ifanc sydd wedi achosi niwed yn cael eu dwyn ynghyd.
Gwneud atgyfeiriad
Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan:
- rhieni
- ysgolion
- swyddogion heddlu cymunedol
- gweithwyr proffesiynol eraill
Os ydych yn pryderu am ymddygiad person ifanc, cysylltwch â ni.
Ffoniwch ni ar: 01492 577377
Ysgrifennwch atom yn:
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Mwy o wybodaeth
Ewch i wefan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid