Mae angen ymdrech genedlaethol i rwystro lledaeniad Coronafeirws (COVID-19) ac rydym yn deall fod pobl eisiau helpu eraill sy’n sâl neu mewn risg penodol. Rydym yn croesawu ymdrechion o’r fath yn fawr iawn ac eisiau cynorthwyo gwirfoddolwyr a’r bobl sy’n cael gofal i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi’r ddiogel.
Yr opsiwn cyntaf bob amser i bobl sydd angen cymorth yw troi at deulu, cyfeillion neu gymdogion. Os nad yw hyn yn bosibl yna mae camau syml y gellir eu cymryd i wneud trefniadau diogel gyda gwirfoddolwyr cymunedol.
Mae’r daflen hon gan y Llywodraeth (a’r daflen Cwestiynau Cyffredin gysylltiedig) wedi’i dylunio i roi sylw i bryderon posibl sydd gan bobl sy’n chwarae rhan mewn cefnogi eu cymuned ar yr adeg yma.