Manylion y cwrs:
Nod: Bydd y gofalwr maeth yn gallu disgrifio sut maent yn cydbwyso cyfle a diogelwch mewn perthynas â’r defnydd o dechnolegau digidol ar gyfer y plentyn sydd wedi’u lleoli gyda nhw.
Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau Dysgu:
- Cynyddu gwybodaeth am y dulliau amrywiol y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio i ymgysylltu â’r byd rhithiol.
- Codi ymwybyddiaeth o fuddion a chyfleoedd technoleg ddigidol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal
- Archwilio materion diogelwch posibl ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal wrth iddynt ddefnyddio technolegau digidol.
- Nodi sgiliau craidd y gall gofalwyr maeth eu defnyddio i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio’r byd rhithiol yn ddiogel.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.