Manylion y cwrs:
Bydd y gofalwr maeth yn gallu adnabod a disgrifio effeithiau camdriniaeth ddomestig er mwyn helpu’r plentyn neu’r person ifanc yn briodol
Nodau ac amcanion y cwrs:
Deilliannau dysgu
- Datblygu dealltwriaeth o’r hyn y mae camdriniaeth ddomestig yn ei olygu a’i effeithiau ar unigolion
- Archwilio’r gyfraith mewn perthynas â chamdriniaeth ddomestig
- Ennill dealltwriaeth o effaith camdriniaeth ddomestig ar blant a sut i’w helpu oresgyn y trawma hwn
I gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych chi wedi archebu lle ar y cwrs ond heb dderbyn hysbysiad i fynychu, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs os nad ydych chi wedi cael hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan y gallai’r digwyddiad fod yn llawn.