Manylion y cwrs:
Nod: Bydd y gofalwr maeth yn gallu nodi ffyrdd y byddant yn cydbwyso anghenion eu plant eu hunain gydag anghenion y plentyn sydd ar leoliad.
Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau dysgu
- Cydnabod rôl allweddol meibion a merched o safbwynt lleoliadau maethu llwyddiannus
- Adlewyrchu ar yr effaith ar feibion a merched ac ystyried sut gellir diwallu eu anghenion
- Ystyried y teulu estynedig a sut mae materion fel cyfrinachedd yn cael eu rheoli yn enwedig pan fyddant yn chwarae rôl gefnogol
- Nodi ffyrdd y byddant yn cydbwyso anghenion eu plentyn eu hunain gydag anghenion y plentyn sydd ar leoliad
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.