Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
4 Hydref 2018 |
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9:30am - 2:30pm |
Ystafell Hyfforddiant Tan Lan, Bron y Nant, Ffordd Dinerth, Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn, Conwy, LL28 4YN |
Barbara Lyons |
Gwasanaethau Targed Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Gofalwyr Maeth, Glan yr Afon
Grŵp Targed Gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ymyrraeth i deuluoedd, staff preswyl |
Nodau ac amcanion y cwrs:
- Mae tystiolaeth yn dangos os yw rhieni’n ymgolli eu hunain mewn problemau sy’n arwain at eithrio tasgau, perthnasoedd neu faterion eraill, mae'n debygol na fyddant ar gael ddigon i gyflawni'r dasg o fagu eu plant neu byddant yn methu â diwallu anghenion eu plant. Bydd y cwrs undydd hwn yn archwilio'r effeithiau andwyol y bydd hyn yn ei gael ar blant.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn:
- Deall ffactorau risg i rieni megis problemau alcohol neu gyffuriau, cam-drin domestig, tlodi, salwch meddwl, trawma a thai gwael, a sut y mae’r rhain yn dylanwadu ar ei gilydd ac yn peryglu gallu’r rhieni i fagu eu plant, ystyried y profiad hwn o safbwynt y plentyn, archwilio ym mha ffyrdd yr effeithir ar y plant, cael gwell dealltwriaeth o rai mathau o ymddygiad a welir mewn plant sy'n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu sydd wedi profi trawma.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.