Manylion y cwrs:
Defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol - gan gynnwys arddangos - pwyslais ar Gyfarpar Diogelu Personol ochr yn ochr ag arddangos.
Nodau ac amcanion y cwrs:
- Ystyried y diffiniad o haint a rheoli haint, ac i edrych ar sut y gall gwahanol fathau o afiechydon ledaenu (lledaeniad mewndarddol a lledaeniad alldarddol)
- COVID19 – 2020 – lle’r ydym ni!
- Ystyried gwahanol fathau o ficro-organedd pathogenig, bacteria, feirws, ffyngau, protosoa a pharaseitiaid
- Adnabod haint systematig a lleol
- Edrych ar afiechydon heintus cyffredin gan gynnwys MRSA (gwladychu a heintiau), clostridiwm difficile, ffliw a’r annwyd cyffredin
- Codi ymwybyddiaeth o’r egwyddorion o reoli heintiau – enghreifftiau o arferion da a drwg, rolau a chyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr mewn perthynas â rheoli heintiau
- Atal lledaenu haint – golchi dwylo’n effeithiol, defnyddio rhagofalon cyffredinol/ cyfarpar diogelu personol a hylendid personol dda
- Cwis Rheoli Heintiau
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr yn cael tystysgrif.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i ddod arno, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.