Oherwydd cyfyngiadau COVID-19 bydd y cwrs hwn yn cynnwys hyfforddiant ystafell ddosbarth ar-lein dros Zoom am 2 ddiwrnod, ac ar ôl cwblhau’r deuddydd, bydd ymgeiswyr yn derbyn tystysgrif ymwybyddiaeth pasbort codi a symud yn gorfforol.
Nod ac amcanion y cwrs:
Bydd y cwrs hwn yn darparu Tystysgrif Ymwybyddiaeth Pasbort Codi a Symud yn Gorfforol i unigolion.
Oherwydd cyfyngiadau COVID-19 bydd y cwrs hwn yn cynnwys hyfforddiant ystafell ddosbarth ar-lein dros Zoom am 2 ddiwrnod, ac ar ôl cwblhau’r deuddydd, bydd ymgeiswyr yn derbyn tystysgrif ymwybyddiaeth pasbort codi a symud yn gorfforol.
Bydd y modiwlau canlynol yn rhan o’r cwrs:
Modiwlau A a B
- Cyflwyniad i Godi a Symud yn Gorfforol
- Anafiadau Cyhyrysgerbydol
- Anatomeg a Ffisioleg
- Egwyddorion Ystum Corff Da
- Deddfwriaeth
- Asesiad Risg
Modiwl C
- Eistedd, Sefyll a Cherdded
Modiwl D
Modiwl E
Modiwl F
I dderbyn Pasbort Codi a Symud yn Gorfforol Cymru Gyfan yn llawn, bydd ymgeiswyr angen cwblhau 3ydd diwrnod hyfforddiant ychwanegol, wyneb yn wyneb gyda’r hyfforddwr, ble byddant yn cwblhau llyfr gwaith ac asesir eu cymhwysedd a bydd hyn yn darparu tystysgrif pasbort llawn.
Nid yw’r 3ydd diwrnod o hyfforddiant ar gael eto oherwydd y sefyllfa COVID-19.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.