Nodau ac amcanion y cwrs:
- Ennill gwybodaeth o’r fframwaith cyfreithiol cynhaliol.
- Ennill trosolwg o’r broses ddiogelu.
- Ennill dealltwriaeth o’r rhaglen genedlaethol o wneud Diogelu’n Bersonol er mwy sicrhau y caiff ymatebion i sefyllfaoedd diogelu eu darparu mewn ffordd sy’n gwella ymgysylltiad, dewis a rheolaeth yn ogystal a gwella ansawdd bywyd, lles a diogelwch. Deall mathau, pwrpas a modelau ymholi, sut i gynllunio ymholiad a chynnal adolygiad dilynol i safonau arfer gorau. Sut i greu a defnyddio cofnodion a nodiadau fel y ffynhonnell sylfaenol o wybodaeth.
- Sut i adnabod problemau a ffeithiau, a ffynhonnell a phwysigrwydd y ffeithiau hynny.
- Sut i werthuso a thriongli ffeithiau.
- Deall nodweddion adroddiad diogelu da, gosodiad, fformat ac arddull priodol a datblygu llygad beirniadol mewn perthynas â thystiolaeth ysgrifenedig.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.
Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.